Comisiynydd Heddlu'r Gogledd, Winston Roddick
Mae Comisynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Winston Roddick wedi cyhoeddi ei fod yn chwilio am ddirprwy.

Bydd y dirprwy’n gyfrifol am gynorthwyo i graffu ar berfformiad y Comisiynydd, ceisio barn y cyhoedd ar faterion plismona a throseddu, ac ymgymryd â dyletswyddau ymgysylltu.

Dywedodd Winston Roddick ei fod yn chwilio am rywun i gynorthwyo “â’r gwaith o oruchwylio cyllideb o filiynau o bunnoedd”.

“Yn bwysicach na dim, rwyf eisiau penodi rhywun y gallaf fod â’r ffydd eithaf yn eu dibynadwyedd, eu hunplygrwydd a’u doethineb barn ac sy’n rhannu fy ngweledigaeth ar gyfer plismona a chyfiawnder troseddol yng Ngogledd Cymru.”

Ychwanegodd y byddai’n rhaid i’r sawl sy’n cael ei benodi fedru’r Gymraeg.

“Dros y chwe mis diwethaf rwyf wedi dod i ddeall yr ystod lawn o swyddogaethau y mae’n ofynnol i mi, fel Comisiynydd, eu cyflawni. Rwyf wedi dod i’r casgliad bod rôl y Dirprwy yn hanfodol o ran fy nghynorthwyo i ymgymryd â’r hyn sy’n llwyth gwaith anferth.

‘Ychwanegu gwerth’

“Rwy’n hyderus y bydd Dirprwy Gomisiynydd yn ychwanegu gwerth drwy gynyddu ymgysylltiad â’r cymunedau yr wyf yn eu gwasanaethau a’m cefnogi yn fy ngwaith o ddal yr Heddlu’n atebol, a thrwy hynny’n helpu i wneud Gogledd Cymru yn lle diogelach.

Fe allai Winston Roddick benderfynu penodi rhywun heb gynnal proses geisiadau, ond fe ddywedodd fod angen mynd trwy’r broses er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu mewn modd tryloyw.

“Dyma pam yr wyf yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys o bob rhan o Ogledd Cymru. Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hasesu yn ôl haeddiant, nid yn ôl unrhyw gysylltiadau gwleidyddol neu bersonol.”