Cyhoeddodd Celtic Rugby heddiw y bydd gemau  cynghrair rygbi RaboDirect PRO12 yn cael eu darlledu ar Sky Sports o flwyddyn nesa ymlaen.

Mae’r cytundeb yn debygol o redeg ochr yn ochr â’r cytundeb sydd gan y gynghrair gyda S4C a’r BBC i ddarlledu gemau rhanbarthau Cymru ar hyn o bryd.

Mae’r cytundeb yn golygu y bydd 125  o 135 o gemau tymor 2014/15 yn cael eu darlledu ar y teledu a bydd y clybiau’n cael hyd at 50% yn fwy o arian darlledu.

Cytundeb 4 blynedd

Bydd y cytundeb Sky yn dechrau ar gychwyn  tymor 2014/15 ac yn para am bedair blynedd. Bydd Sky Sports yn darlledu 30 o gemau byw y flwyddyn yn ogystal â’r gemau ail gyfle a’r ffeinal. Mae Sky eisoes yn dal y cytundeb i ddarlledu gemau Ewropeaidd yn y Cwpan Heineken.

Mewn datganiad, dywedodd Cletic Rugby hefyd bod trafodaethau yn parhau gyda darlledwyr eraill ac y byddan nhw’n cyhoeddi’r cytundebau maes o law.

Dywedodd John Feehan, prif weithredwr Celtic Rugby: “Mae’r RaboDirect PRO12 yn cynnwys y timau gorau o Iwerddon, Cymru, yr Alban a’r Eidal. Mae ein cystadleuaeth yn ffynnu gyda niferoedd cynyddol yn mynd trwy’r giatiau yn ogystal â mwy o gynulleidfaoedd teledu.

“Rydym yn credu y bydd y cytundeb hwn gyda Sky yn ein galluogi i ddod â’r twrnamaint i gynulleidfa deledu fwy eang

“Mae hon yn garreg filltir i Celtic Rugby gan ei fod yn golygu’r cytundeb rhwydwaith cyntaf erioed yn y DU ac Iwerddon.

Sylwebaeth Cymraeg

Ond mae’r newyddion yn codi’r cwestiynau ynglŷn â sylwebaeth Gymraeg ar gemau rygbi rhanbarthau Cymru ar Sky – yn enwedig ar ôl i Sky stopio’r gwasanaeth Cymraeg wrth ddarlledu gemau pêl-droed Cymru.

Ond dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Geraint Rowlands:

“Rydym yn dal i drafod gyda Celtic Rugby ynglŷn â darlledu cystadleuaeth RaboDirect Pro12 o dymor 2014/15 ymlaen.  Ein gobaith yw parhau i gynnig gwasanaeth Cymraeg o safon uchel sydd ar gael am ddim i bawb yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol.”

Datganiad y BBC

Mae BBC Gogledd Iwerddon, BBC ALBA a BBC Cymru Wales wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd.

“Ry’n ni wedi bod  mewn trafodaethau gyda Celtic Rugby ynglŷn â’r hawliau darlledu ar gyfer y Gystadleuaeth Pro12 ers y llynedd, o wybod bod y gystadleuaeth yn chwilio am bartneriaid teledu y gellir ei dderbyn yn ddi-dâl a hefyd lle mae angen talu.

“Roedden ni’n ymwybodol bod Sky yn mynd i wneud cyhoeddiad heddiw, ond ry’n ni ddim mewn sefyllfa i wneud yr un peth oherwydd bod trafodaethau gyda Celtic Rugby yn parhau. Serch hynny, ry’n ni dal yn obeithiol y gellir dod i ganlyniad positif yn fuan – canlyniad fydd yn caniatáu i ni barhau i ddod â’r gystadleuaeth Pro12 i’r gynulleidfa fwyaf posib.”