Rhodri Talfan Davies
Mae pennaeth BBC Cymru wedi dweud fod yn rhaid i Radio Cymru apelio at fwy na siaradwyr Cymraeg pybyr os yw’r orsaf am ffynnu.
Mewn araith yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn Abertawe dywedodd Rhodri Talfan Davies fod angen i Radio Cymru adlewyrchu bywyd Cymru fel y mae – “nid fel yr hoffem iddo fod, neu sut ry’n ni’n dychmygu yr arferai fod.”
Cyhoeddodd fod yr orsaf yn lansio “sgwrs” genedlaethol ar ddyfodol Radio Cymru, gan wahodd gwrandawyr a sefydliadau i rannu eu barn ar yr orsaf a’i dyfodol.
Cymru’n newid
Ychwanegodd mai prif flaenoriaeth yr orsaf yw gwasanaethu ei chynulleidfa, nid achub iaith, a bod canlyniadau’r Cyfrifiad yn dangos fod y Gymru Gymraeg yn newid a bod angen i Radio Cymru adlewyrchu cynulleidfa sydd ddim yn byw trwy’r Gymraeg yn unig.
“Nid iaith yn unig ddylai ddiffinio ein gwasanaethau ond ychydig yn fwy o realiti byd blêr, dwyieithog ein cynulleidfaoedd,” meddai Rhodri Talfan Davies.
Arolwg o gynulleidfa Radio Cymru
Dywedodd Rhodri Talfan Davies nad yw’n credu mai troi Radio Cymru’n ddwyieithog yw’r ateb, ond bod angen i’r orsaf “weithio’n galetach i gyrraedd y rhai sy’n llai hyderus yn yr iaith – neu sy’n dal i’w dysgu.”
Dywedodd fod angen i’r orsaf ystyried pa fath o gerddoriaeth mae’n ei chwarae, er mwyn adlewyrchu’r amrywiaeth o gerddoriaeth mae siaradwyr Cymraeg yn gwrando arni.
“Ry’n ni’n mynd i wrando’n astud ar yr atebion wrth i ni lunio ein cynlluniau ar gyfer yr orsaf,” meddai am arolwg Radio Cymru.
Bydd Sgwrs Radio Cymru yn para am ddau i dri mis, a bydd BBC Cymru yn casglu’r ymatebion ac yn cyhoeddi eu cynlluniau am ddyfodol i Radio Cymru yn yr Hydref.
Pedwar cwestiwn
Mae BBC Cymru yn cynnig bod ymatebwyr yn rhoi eu barn ar bedwar cwestiwn:
A yw BBC Radio Cymru’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng ei rhaglenni newyddion ac adloniant?
A yw cerddoriaeth Radio Cymru yn taro’r cywair iawn gyda chi a’ch teulu?
Gan edrych i’r dyfodol, a ydych chi’n cytuno y dylai Radio Cymru ehangu ei apêl, gan gynnwys y rheiny sy’n llai hyderus yn y Gymraeg?
Os ydych chi’n cytuno, sut dylai Radio Cymru newid neu addasu ei rhaglenni i wneud i’r cynulleidfaoedd newydd hyn deimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod nhw’n cael eu cynnwys?
Mae’n bosib ymateb drwy e-bostio sgwrsradiocymru@bbc.co.uk, ffonio llinell arbennig Sgwrs Radio Cymru ar 03703 33 16 36, neu drwy ysgrifennu at Sgwrs Radio Cymru, Ystafell 3020, BBC Cymru Wales, Llandaf, Caerdydd, CF5 2YQ.