Fe fydd profion pellach yn cael eu cynnal ar ddyn fu farw oedd yn dioddef o’r frech goch ar ôl i ganlyniadau archwiliad post mortem fethu a darganfod union achos ei farwolaeth.

Bu farw  Gareth Colfer-Williams, 25, yn ei gartref yn Abertawe wythnos ddiwethaf.

Er ei fod yn dioddef o’r haint pan fu farw, mae’r archwiliad post mortem wedi methu cadarnhau os mai’r frech goch oedd achos ei farwolaeth.

Fe fydd cwest yn cael ei agor a’i ohirio ddydd Mawrth er mwyn caniatáu i ragor o brofion gael eu cynnal.

56 o achosion newydd

Yn y cyfamser, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 56 o achosion newydd o’r frech goch yn ardal Abertawe ers dydd Mawrth.

Mae  nifer y bobol sydd wedi’u heintio bellach wedi cyrraedd 942.

Wrth gyhoeddi’r ffigurau heddiw, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai plant dderbyn brechlyn MMR cyn iddyn nhw sefyll arholiadau yn yr haf.

Mae’r haint wedi effeithio fwyaf ar blant 10 i 18 oed.

Yn Abertawe y mae’r nifer fwyaf o achosion ers i’r haint ledu, ond mae achosion wedi cael eu cofnodi eisoes yn ardaloedd byrddau iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda.

Mae 83 o bobol wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty eisoes.

‘Nid yw’r haint yn lleddfu’

Ategodd Cyfarwyddwr Amddiffyn Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Marion Lyons ei galwad am frechu plant.

Dywedodd: “Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion yn dangos nad yw’r haint yn lleddfu, yn enwedig yn y grŵp oedran 10 i 18.

“Mae gan bobol ifanc arholiadau pwysig ar y gorwel ac mae angen i ni sicrhau bod y bobol hynny rhwng 10 a 18 oed yn cael eu brechu fel nad yw eu paratoadau ar gyfer yr arholiadau hyn yn cael eu heffeithio.”

Fe fydd y rhaglenni brechu mewn ysgolion yn parhau wrth i’r achosion gynyddu.

Bydd plant yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu brechu wythnos nesaf, ac fe fydd rhagor o glinigau brechu’n cael eu cynnal ddydd Sadwrn.

Eisteddfod yr Urdd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi galw ar rieni i sicrhau bod eu plant yn cael brechiad MMR cyn mynd i Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro ar 27 Mai.

Wrth i filoedd o blant ddod ynghyd ar gyfer yr wyl yng Nghilwendeg ger Boncath, mae nodyn ar wefan yr Eisteddfod yn annog rhieni i frechu eu plant cyn y digwyddiad, gan fod yr haint yn gallu lledu’n hawdd.

Mae’r cyngor ar wefan yr Eisteddfod yn rhybuddio bod “plant nad ydyn nhw wedi derbyn dau bigiad o frechlyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) ac sy’n dod i ddigwyddiadau lle bo llawer o blant eraill yn wynebu perygl.

“Os nad ydy eich plentyn wedi ei frechu’n llawn, ewch at eich meddyg teulu i drafod brechu ar unwaith, os gwelwch yn dda.”