Mae dyn wedi cael ei arestio yn Ipswich ar amheuaeth o nifer o achosion o gam-drin yng ngogledd Cymru.

Mae’n cael ei holi mewn perthynas ag Ymchwiliad Pallial, sy’n ymchwilio i achosion o gam-drin plant yng ngogledd Cymru. Hwn yw’r tro cyntaf i unrhyw un gael ei arestio mewn perthynas â’r ymchwiliad a ddechreuodd fis Tachwedd y llynedd.

Dywedodd yr heddlu na fydden nhw’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y dyn, sydd wedi cael ei gludo i ogledd Cymru i gael ei holi.

Bydd adroddiad ar Ymchwiliad Pallial yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf ddydd Llun nesaf.

Mae’n cael ei arwain gan Heddlu Glannau Mersi, yr Asiantaeth Troseddau Trefnedig Difrifol, a chanolfan Ecsbloetio Plant a Gwarchod Ar-lein, yn ogystal â nifer o heddluoedd ledled Prydain.