Mae’r Gweinidog dros amaeth yng Nghymru wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi £500,000 i elusennau amaeth er mwyn rhoi cymorth i ffermwyr gafodd eu taro gan y tywydd gwael.

Mae Alun Davies hefyd wedi ymestyn y cyfnod gall ffermwyr gladdu defaid ar eu tir tan ganol nos ar 23 Ebrill. Roedd y cyfnod claddu i fod i ddod i ben heno.

Mae hefyd wedi gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd dalu’r Taliadau Fferm Sengl yn gynharach eleni, yng nghanol mis Hydref, sef y cyfnod cynharaf ar gyfer gwneud y taliadau meddai.

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol mai pecyn o gymorth tymor byr yw’r cyhoeddiad heddiw ac nid cymhorthdal i ffermwyr.

“Rwyf wedi gwneud yn eglur iawn nad cymhorthdal pellach yw’r ffordd ymlaen i’r diwydiant naill ai yn y tymor byr neu’r hir dymor,” meddai Alun Davies.

“Er mwyn sicrhau gwytnwch y diwydiant yn yr hir dymor rhaid i’r diwydiant symud i ffwrdd oddi wrth ddibyniaeth ar arian cyhoeddus ac wynebu’r farchnad.”

Pa elusennau fydd yn dosbarthu’r arian?

Mae tair elusen yn mynd i dderbyn yr hanner miliwn o bunnau:

Ymddiriedolaeth Addington – £250,000. Elusen sydd â phencadlys yn Warwick ac sy’n darparu llety i bobol sydd wedi gorfod gadael y sector amaeth.

Sefydliad Lles Amaethyddol Brenhinol (RABI) £150,000. Pencadlys yn Rhydychen, gyda dau reolwr rhanbarthol yng Nghymru.

Rhwydwaith Cymunedau Fferm (FCN) – £100,000. Wedi ei leoli yn West Haddon, Swydd Northampton, gyda phedwar grŵp yng Nghymru.

Dywed Alun Davies y bydd y cymorth yn cael ei dargedu yn yr ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf. Gall ffermwyr gladdu defaid ar hyn o bryd mewn ardaloedd mynyddig yn siroedd Conwy, Dinbych, Wrecsam, Gwynedd, a’r Fflint, ynghyd ag ardaloedd Maldwyn, Maesyfed, a gogledd Ceredigion. .

Mae Alun Davies eisoes wedi sefydlu adolygiad annibynnol dan arweinyddiaeth Kevin Roberts, cyn-gyfarwyddwr cyffredinol yr NFU, i edrych ar fodelau busnes y sector amaeth. Dywedodd Alun Davies ei fod yn cwrdd â Kevin Roberts heddiw i drafod yr adolygiad gyda’r bwriad o wneud datganiad pellach arno o fewn y pythefnos nesaf.