Mae dyn o Sir y Fflint wedi cael ei garcharu am oes am dreisio merch ysgol a throseddau rhyw eraill.

Roedd David Edgerton, 23, o Gei Conna wedi cyfaddef cipio a threisio’r ferch ar ôl ei llusgo i goedwig yng Nghoed-llai ym mis Awst y llynedd.

Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf naw mlynedd dan glo.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug cafodd Edgerton hefyd ei gyhuddo o dreisio, ceisio treisio a cheisio cipio tair merch arall.

Mae’r barnwr Merfyn Hughes QC wedi dweud ei fod am i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) esbonio pam bod Edgerton wedi bod a’i draed yn rhydd cyhyd.

Roedd nifer o gwynion eisoes wedi cael eu gwneud yn erbyn Edgerton ond nid oedd wedi cael ei erlyn.

Dywedodd y barnwr y gallai agwedd wahanol gan yr heddlu a’r CPS fod wedi atal yr ymosodiad ar y ferch ysgol.