Mae daeargryn pwerus wedi taro’r ffin rhwng Iran a Phacistan, lai nag wythnos ers i 37 o bobl gael eu lladd gan ddaeargryn yn Iran.

Yn ol adroddiadau, mae o leiaf 40 o bobl wedi eu lladd.

Roedd y daeargryn yn mesur 7.8 ar raddfa Richter.

Cafodd effeithiau’r daeargryn eu teimlo ar draws Pacistan, India a’r Dwyrain Canol.

Wythnos diwethaf roedd daeargryn yn mesur 6.1 wedi taro Iran, tua 50 milltir i’r de orllewin o Bushehr.