Mae dros 2,000 o blant a phobl ifanc wedi cael eu brechu rhag y frech goch mewn clinigau arbennig mewn trefi a dinasoedd ledled y de heddiw.

O’r rhain roedd tua 1,700 yn ardal Abertawe, lle’r oedd nifer yr achosion o’r frech goch wedi cynyddu i bron 700 yn ôl y cyfrif diwethaf.

Gydag o leiaf 6,000 o blant heb gael eu brechu yn yr ardal, cafodd clinigau brys yn cael eu cynnal  yn ysbytai Singleton a Threforys, Abertawe, Ysbyty Castell Port Talbot ac Ysbyty Tywysoges Cymru Penybont.

Mae’r llwyddiant heddiw’n dilyn ymateb tebyg yr wythnos ddiwethaf, pryd y cafodd 1,700 o blant eu brechu mewn clinigau arbennig o’r fath.

Yn ogystal, cafodd dros 600 eu brechu mewn clinigau tebyg yn ne-ddwyrain Cymru hefyd heddiw.

Fe fu sesiynau galw-i-mewn yn ysbyty Llandochau ac Inffyrmari Cenedlaethol Caerdydd ac yng Nghasnewydd ac Ystrad Mynach.

Miloedd heb imiwnedd llawn

Dywed Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro nad oes achosion o’r frech goch yn eu dalgylch ar hyn o bryd ond eu bod nhw’n gweithredu mewn ymateb i’r argyfwng yn ardal Abertawe. Roedden nhw’n amcangyfrif fod 13,000 o blant a phobl ifanc lleol o dan 19 oed nad ydyn nhw wedi cael eu ddau bigiad MMR.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n pwyso ar rieni plant o bob oed sydd heb gael eu brechu ledled Cymru i weithredu ar unwaith i ddiogelu eu plant. Maen nhw’n amcangyfrif y gall fod hyd at 40,000 heb imiwnedd llawn yng Nghymru.

Barn arbenigwyr yw fod yr achosion yn deillio’n bennaf o garfan o blant na chafodd eu imiwneiddio tua 15 mlynedd yn ôl oherwydd pryderon am gysylltiad rhwng brechlynnau MMR ac awtistiaeth mewn plant.

Gyda’r pryder hwnnw wedi’i wrthbrofi ers blynyddoedd bellach mae’r rhai sydd heb gael eu brechu’n fwy tebygol o fod yn eu harddegau nag yn blant bach.