Mae cylchlythyr newydd wedi ei lansio i gynghori ffermwyr gogledd Cymru ar faterion yn ymwneud â lles anifeiliaid.

Mae’n cynnwys gwybodaeth ar bynciau fel cofnodion gwaredu cyrff anifeiliaid, rheolau adnabod ceffylau, adrodd symudiadau moch, rheolau profion TB – yn ogystal â manylion cyswllt defnyddiol ar gyfer y chwe sir.

Caiff rhifyn cyntaf Cylchlythyr Panel Iechyd a Lles Anifeiliaid Gogledd Cymru 2013 ei gyhoeddi ar y cyd gan benaethiaid Safonau Masnach holl gynghorau gogledd Cymru. Hwn yw’r tro cyntaf i wasanaethau Iechyd Anifeiliaid a Safonau Masnach ar draws y rhanbarth – Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam – ddod at ei gilydd i greu cylchlythyr o’r fath.

Bydd copïau electronig o’r cylchlythyr ar gael ar wefannau pob Cyngor. Bydd copïau caled ar gael o swyddfeydd y chwe chyngor, marchnadoedd da byw a sefydliadau amaethyddol eraill o fewn y gwahanol ardaloedd.