Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth wedi i ddau o bobol gael eu lladd mewn damwain ar ffordd A474 yn Fforest Goch ger Pontardawe neithiwr.

Roedd Renault Clio arian wedi gadael y ffordd a tharo yn erbyn coeden tua 7pm.

Bu farw dau o bobl yn y fan a’r lle, a chafodd person arall ei gludo i Ysbyty Treforys.

Roedd y ffordd ar gau am hyd at saith awr yn dilyn y ddamwain.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Hoffai’r heddlu siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a stopiodd i helpu, neu a welodd y cerbyd yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad ac sydd heb roi eu manylion eto.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.