April Jones
Mae disgwyl i’r gwaith o chwilio am April Jones o Fachynlleth ddod i ben ar ddiwedd mis Ebrill, fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys heddiw.
Diflannodd y ferch fach 5 oed ger ei chartref ym Machynlleth fis Hydref y llynedd.
Roedd nifer o unedau’r heddlu, gan gynnwys unedau morwrol, gwasanaethau tân ac achub, gwylwyr y glannau a thimau achub mynyddig wedi bod yn chwilio amdani ers iddi ddiflannu.
Mae 17 o dimau wedi bod yn rhan o’r chwilio ers y dechrau, yn chwilio dros 60 cilomedr sgwâr o dir.
Cafodd dyn lleol, Mark Bridger ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio, ac fe fydd e’n ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug fis nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: “Mae’r timau wedi gweithio trwy gynllun manwl oedd yn seiliedig ar wybodaeth o’r ymchwiliad, a chanllawiau arfer gorau cenedlaethol.
“Bob wythnos, bu 17 o dimau yn chwilio am April. Mae’r tir yn heriol dros ben.
“Gwnaeth yr heddlu ymrwymo i chwilio tan fod yr holl ymholiadau wedi cael eu cwblhau.
“Mae’r chwilio wedi cael ei ohirio oherwydd y tywydd. Fydd yna ddim chwilio dros y Pasg.
“Yn ystod mis Ebrill, bydd swyddogion yn gorffen chwilio mannau penodol o dir gyda’r bwriad o gwblhau chwilio’r holl fannau a nodwyd erbyn diwedd Ebrill.
“Wrth gwrs, fe fydd tîm yn barod i ymateb i unrhyw wybodaeth newydd sy’n dod i law.”