Dydy dŵr nifer o draethau Cymru ddim wedi cyrraedd y safon sy’n ofynnol yn ôl y Canllaw Traethau Da.

Dim ond 98 o’r 153 o draethau yng Nghymru oedd wedi cyrraedd safonau uchaf Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, gyda 30 o draethau’n colli eu statws “rhagorol”.

Methodd pump o draethau â chyrraedd y safonau mwyaf sylfaenol – traeth y gogledd yn Llandudno, Pwllgwaelod yn Sir Benfro, Cricieth yng Ngwynedd, Aberogwr ym Mro Morgannwg a’r Rhyl yn Sir Ddinbych.

Mae’r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol wedi rhybuddio y gallai pobol fynd yn sâl wrth nofio mewn dŵr llygredig ar nifer o draethau.

Gall dŵr brwnt achosi heintiau yn y clustiau, y trwyn, y llwnc a’r stumog.

Dywedon nhw mai’r tywydd gwlyb, fwy na thebyg, sy’n gyfrifol am y gostyngiad yn safon y dŵr, a bod angen monitro pibellau carthffosiaeth sy’n rhedeg i mewn i’r dŵr.

Mae’r tywydd gwlyb yn helpu bacteria a firysau i dyfu yn y dŵr.

‘Rhaid gweithredu nawr’

Dywedodd swyddog llygredd arfordirol y Gymdeithas Gadwraeth Forwrol, Rachel Wyatt: “Rydyn ni wedi argymell llai o draethau ym mhob rhanbarth yn Lloegr, ac yng Nghymru a’r Alban.

“Rhaid gweithredu nawr. Gyda safonau dŵr ymdrochi mwy llym o 2015 a hafau sy’n ymddangos fel pe baen nhw’n mynd yn wlypach, gallai’r ddelwedd eiconig o bobol yn ymdrochi oddi ar draethau euraid fod mewn perygl difrifol.

“Does dim ateb syml i garthffosiaeth a gwastraff anifeiliaid yn cyrraedd ein moroedd.

“Fodd bynnag, os yw’r diwydiant dŵr, cymunedau ac awdurdodau lleol yn cydnabod fod yna broblem ac yn dechrau cydweithio i ddod o hyd i atebion, byddai hynny’n ddechrau sylweddol.”

Rhybuddiodd y Gymdeithas fod nifer o ardaloedd wedi bod yn anwybyddu’r rhybuddion am safon y dŵr.

Y llynedd, derbyniodd y nifer fwyaf erioed o draethau gymeradwyaeth am safon y dŵr.