Mae cannoedd o deuluoedd ac unigolion digartref yng Nghymru yn cael eu rhoi mewn llety gwely a brecwast sy’n costio hyd at £420 yr wythnos medd Plaid Cymru.

Mae cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wedi darganfod fod defnydd helaeth yn cael ei wneud o lety gwely a brecwast, a dim ond awdurdodau lleol Caerdydd a Cheredigion sydd ddim yn eu defnyddio.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr roedd 125 aelwyd wedi eu gosod mewn llety gwely a brecwast rhwng Ebrill 1 a Rhagfyr 31 llynedd. Yn Abertawe, roedd y ffigwr yn 178.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Mae dros 1,000 achos o deuluoedd ac unigolion yn cael eu lletya mewn llety gwely a brecwast yng Nghymru rhwng Ebrill a Rhagfyr 31, 2012, sy’n nifer annerbyniol o uchel.”

‘Dysgu gan Yr Alban’

Dywedodd Leanne Wood ei bod eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn dysgu o’r gwaith a wnaed yn yr Alban i ymdrin â digartrefedd.

Yn 2003, pasiodd Senedd yr Alban ddeddfwriaeth wedi’i anelu at yr hawl i sicrhau cartref i bawb sy’n ddigartref. Cychwynnodd hyn raglen ddiwygio, a’r canlyniad oedd symud y gwahaniaeth ‘blaenoriaeth/heb fod yn flaenoriaeth’ o’r prawf digartrefedd ar Ragfyr 31 2012.

Dywedodd Leanne Wood fod y defnydd o lety gwely a brecwast dros y blynyddoedd diwethaf fel llety dros dro wedi disgyn gan 38% yn yr Alban.