Mae undeb athrawon yn pryderu fod bwriad y Gweinidog Addysg i gau ysgol flwyddyn yn gynnar yn mynd i greu mwy o broblemau nag o fudd.

Mae Leighton Andrews am weld Ysgol Uwchradd Llanrhymni yng Nghaerdydd yn cau flwyddyn yn gynt na’r disgwyl ac yn uno gydag Ysgol Uwchradd Rhymni yr haf yma.

Mae Ysgol Llanrhymni wedi bod dan fesurau arbennig ers i Estyn gynnal arolygiad yno ym mis Hydref ac roedd cyngor Caerdydd yn bwriadu ei chau yn Awst 2014 a chreu un ysgol uwchradd fawr yn Nwyrain Caerdydd.

‘Gelyniaeth rhwng y ddwy ysgol’

Yn ôl NUT Cymru byddai cau yn gynnar yn creu llawer o drafferthion i staff a disgyblion “heb fantais wirioneddol.” Mae hefyd yn rhybuddio am “elyniaeth” rhwng y ddwy ysgol sy’n uno.

“Mae yna densiynau dwfn ers tro rhwng y ddwy ysgol a’r ddwy gymuned sy’n cael eu heffeithio gan y cynnig,” meddai Mal Davies, sy’n cynrychioli athrawon yr NUT yng Nghaerdydd.

“Byddai uno’n creu hollt addysgol a chymunedol cyn creu ysgol newydd Dwyrain Caerdydd ac yn effeithio’n wael ar yr addysg yn Rhymni,” meddai.

“Mae yna amheuaeth a fydd Ysgol Uwchradd Rhymni yn medru addasu ei strwythur staff, ei darpariaeth TGAU, ei hamserlen a’i lleoliad mewn pryd ar gyfer rhoi cartref i dros 400 o ddisgyblion ychwanegol ym Medi 2013,” meddai Mal Davies.

Cefndir

Bwriad cyngor Caerdydd oedd symud y disgyblion Llanrhymni i Rymni a sefydlu un ysgol uwchradd fawr yn nwyrain y ddinas ym mis Medi 2014. Ond mae Leighton Andrews yn teimlo fod yr amserlen yna yn “rhy hir” ac mae wedi ysgrifennu at y cyngor i gael gweld a fyddan nhw’n gallu ei chau hi ynghynt.

Dywedodd Leighton Andrews fod “safon yr addysg sy’n cael ei darparu ar hyn o bryd gan Lanrhymni yn anfoddhaol, ac mae nifer y disgyblion sydd ar y gofrestr yn gostwng.”

Mae cyfnod ymgynghori yn digwydd ar hyn o bryd ac mae Leighton Andrews o’r farn y byddai cau Llanrhymni yn gynt o fudd i’r disgyblion yno.

“I’r awdurdod byddai cael un ysgol i’w gwella yn ei roi mewn sefyllfa well i gefnogi a datblygu gwelliannau,” meddai