Y Llyfrgell Genedlaethol
Bydd rhai o staff y Llyfrgell Genedlaethol yn streicio yfory fel rhan o weithredu diwydiannol gan aelodau undeb PCS.

Mae’r undeb yn streicio dros gyflogau, telerau gwaith a phensiynau, ac fe fydd piced y tu allan i’r Llyfrgell rhwng 7.30am a 2pm.

Mae’r undeb am weld gweithwyr yn derbyn codiad cyflog o 5%.

Cafodd cyflogau staff y Llyfrgell Genedlaethol eu rhewi 5 mlynedd yn ôl ac mae eu gwerth wedi gostwng 20% yn y cyfnod hwnnw.

Mae 76% o staff y Llyfrgell yn ennill llai na’r cyfartaledd cyflogau Prydeinig (£26,664), 53% yn ennill llai na’r cyfartaledd cyflogau Cymreig (£22,472), a 50% yn ennill llai na’r cyfartaledd cyflogau yng Ngheredigion (£19,444).

Yng Ngheredigion mae’r cyfartaledd cyflog isaf yng Nghymru.

Mae staff cyfatebol yn Llywodraeth y Cynulliad yn ennill 7% yn fwy na staff y Llyfrgell Genedlaethol.

‘Rhewi cyflogau’

Dywedodd cadeirydd cangen PCS y Llyfrgell Genedlaethol, Douglas Jones: “Wedi pum mlynedd o rewi cyflogau mae’r sefyllfa cyflogau yn y Llyfrgell mewn argyfwng.

“Ers 2009 mae gwerth cyflogau staff y Llyfrgell wedi cwympo 20%, yn sylweddol fwy na’r cwymp o 14.4% rydym wedi ei weld yng ngwerth cyflogau ar draws Ceredigion yn yr un cyfnod.

“Gyda chostau byw yn cynyddu, yn enwedig yn ardal wledig fel Ceredigion lle mae costau teithio yn rhan ganolog o’r gyllideb gartref, nid yw’r fath lefelau o gyflogau yn gynaliadwy.

“Mae hyn nid yn unig yn cael effaith ddifrifol ar allu’r staff i gynnal eu cyllidebau cartref, mae hefyd yn effeithio ar allu’r  Llyfrgell fel sefydliad cenedlaethol gyda phroffil rhyngwladol i ddenu a chadw staff.”

‘Cael ein cosbi’


Ychwanegodd: “Mae gweision sifil ledled Cymru a Prydain yn gwneud gwaith pwysig ac angenrheidiol sy’n cadw’r wlad i fynd.

“Ond ni, fel y miliynau o weithwyr a defnyddwyr eraill y sector cyhoeddus, sy’n cael ein cosbi am yr argyfwng economaidd, boed hynny trwy rewi cyflogau, colli swyddi neu dorri gwasanaethau.

“Ar yr un pryd, cafodd penaethiaid cwmnïau mwyaf Prydain, yn eu plith rhai a oedd wedi bod yn allweddol yn creu’r argyfwng economaidd, godiad cyflog y llynedd o 12% ar gyfartaledd.

“Dydy hynny ddim yn iawn – mae’n bryd i Brydain gyfan gael codiad cyflog.”