Lee-Anna Shiers fu farw yn y tan
Fe fydd dynes sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio pum aelod o’r un teulu fu farw mewn tân mewn fflat ym Mhrestatyn, yn sefyll ei phrawf fis nesaf.

Fe ymddangosodd Melanie Jane Smith, 42, yn Llys y Goron Caernarfon heddiw drwy gyswllt fideo.

Dyfarnodd y llys y bydd yr achos yn ei herbyn yn dechrau ar 10 Ebrill.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20, ei nai Bailey, 4, a’i nith Skye, 2, yn y tân yn eu cartref  ar Hydref 19 y llynedd.

Bu farw ei mab Charlie, 15 mis, a’i dad Liam Timbrell, 23, yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae Smith, oedd yn byw yn y fflat o dan y teulu ym Maes y Groes, Prestatyn wedi gwadu pum cyhuddiad o lofruddiaeth  ac un cyhuddiad o fygwth dinistrio neu ddifrodi eiddo.

Fe fydd Smith yn cael ei chadw yn y ddalfa nes bod yr achos yn dechrau yn Llys y Goron yr Wyddgrug.