Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod nhw’n ymrwymo i daclo trais domestig ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod nhw’n destun ymchwiliadau i’r modd maen nhw wedi delio gydag achosion.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i bum achos, gyda phedwar yn ymwneud â dau achos rhyw sydd ar fin cael eu clywed gan Lys y Goron.

Mae ymchwiliad arall yn ymwneud â’r modd wnaeth Heddlu De Cymru ymdrin ag achos o drais domestig yng Nghaerdydd. Roedd dynes wedi dioddef ymosodiad difrifol gan ei phartner ddeuddydd ar ôl iddi fynd i swyddfa’r heddlu i gwyno amdano.

Mae Comisiynydd yr IPCC yng Nghymru, Tom Davies, wedi dweud fod y modd wnaeth yr heddlu adael iddi hi a’i phlant ddychwelyd adre yn “peri pryder difrifol.”

Ymateb Heddlu De Cymru

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Matt Jukes: “Mae mynd i’r afael â thrais domestig o bob math yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a thrwy weithio gyda sefydliadau eraill rydym yn ymrwymedig i leihau’r achosion o drais domestig, yn ogystal â sicrhau bod gan ddioddefwyr yr hyder i roi gwybod i’r heddlu am achosion.

“Ar hyn o bryd mae achosion sydd wedi’u cyfeirio’n wirfoddol gan Heddlu De Cymru i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn cael eu hymchwilio.

“Mae’r heddlu yn parhau i gydweithredu’n llawn gyda’r ymchwiliadau annibynnol hyn, sydd yn parhau a heb ddod i gasgliad eto. Felly, byddai’n amhriodol rhagweld unrhyw ganfyddiadau er ein bod yn cydnabod bod y materion hyn yn bwysig iawn i’r cyhoedd ac felly wedi cael eu trosglwyddo i’r IPCC.”