Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i farwolaeth bachgen 12 oed  yn ei gartref yn Sir Benfro dros y penwythnos.

Mae’r bachgen wedi ei enwi yn lleol fel Sulien Luckman, oedd yn byw yn ardal Templeton, ger Arberth.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i farwolaeth sydyn y bachgen ar ddydd Sadwrn, 9 Mawrth.  Nid yw’r Heddlu’n credu bod unrhyw amgylchiadau amheus ynglŷn â’i farwolaeth ar hyn o bryd, ac maen nhw wedi hysbysu’r Crwner.

Roedd Sulien Luckman yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Taf, Sir Gâr, ac mae disgwyl i’r ysgol wneud datganiad yn hwyrach prynhawn heddiw.

Mae tudalen Facebook sydd wedi ei sefydlu er cof am  y bachgen yn dweud ei fod wedi cael “damwain drasig yn ei gartref ddydd Sadwrn a arweiniodd at ei farwolaeth.”

Mae’r dudalen yn dweud iddo fod yn fachgen oedd yn mwynhau bywyd, ac yn mwynhau chwaraeon, natur a gweithgareddau awyr agored.