Mae cyflogaeth yn y sector cyhoeddus wedi disgyn ym mhob rhan o Gymru a Lloegr, yn ôl ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae’r ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS) yn dangos bod  nifer y rhai sy’n cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus wedi gostwng 7% yng Nghymru i 330,000. Mae’r cwymp fwyaf wedi bod yn llywodraeth leol Cymru, lle mae cyflogaeth wedi disgyn 6% ers 2008.  Mae’r nifer sydd mewn swyddi yng nghyrff Llywodraeth Prydain wedi disgyn 3%.

Mae dros chwarter o weithlu Cymru yn cael ei gyflogi yn y sector cyhoeddus, ac mae pryderon y gall toriadau i wasanaethau gan Lywodraeth Prydain effeithio swyddi yng Nghymru.

Dros Brydain, roedd y cwymp fwyaf yng ngogledd ddwyrain Lloegr, lle’r oedd 24% yn llai o bobol wedi eu cyflogi mewn swyddi llywodraeth leol.

Dywedodd yr ONS mai toriadau i gyllideb awdurdodau lleol, a mwy o staff yn symud oddi ar y rhestr gyflogau oedd ar fai am y cwymp.

Unsain yn feirniadol

Mae’r undeb Unsain yng Nghymru wedi dweud bod y ffigurau yn dangos yr effaith sylweddol mae toriadau yn eu cael ar wasanaethau cyhoeddus.

“Mae gwasanaethau cyhoeddus drwy Gymru a gweddill y DU wedi profi toriadau sylweddol, ac mae Unsain wedi datgan ein pryderon am ddyfodol y gwasanaethau yma yn rheolaidd,” meddai Dominic McAskill, pennaeth llywodraeth leol.

Mae’n galw am leihau toriadau i wasanaethau er mwyn achub swyddi yng Nghymru.

“Mae’r adroddiad yn dangos bod cyflogaeth mewn llywodraeth leol wedi cwympo 6% yn barod, ac mae Unsain yn ymwybodol mai dim ond chwarter o’r toriadau a gynlluniwyd sydd wedi eu gweithredu.  Ar sail hyn, mae dyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wael iawn.

“Mae’n amhosib parhau gyda’r lefel yma o doriadau heb wneud difrod mawr i iechyd, llywodraeth ac addysg yng Nghymru.”