Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi lansio ymgynghoriad i geisio gwella llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr yng Nghymru.

Y gobaith yw gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i baratoi mapiau o lwybrau i’w defnyddio, ac annog teithwyr i ddefnyddio trafnidiaeth di-fodur.

Bydd yr ymgynghoriad yn nodi unrhyw rwystau posibl yn y broses o gyflwyno’r Bil, a bydd y Pwyllgor Menter a Busnes wedyn yn cynnal trafodaethau pellach ar ei ôl.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y Bil yn atgyfnerthu’r syniad fod teithio llesol yn ddull ymarferol o deithio, ac yn ddewis amgen i ddefnyddio moduron ar gyfer teithiau byr.

“Rôl y Pwyllgor, wrth ystyried yr ewyddorion cyffredinol, yw edrych i ba raddau y mae’r Bil y ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni hyn, ac i ba raddau y mae’n addas i’w ddiben, fel y mae wedi’i ddrafftio.

“Gallai’r Bil hwn effeithio’n sylweddol ar y modd y mae pobl yng Nghymru yn teithio yn y dyfodol, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y materion hyn i gymryd rhan a dweud eu barn wrthym.”

Bydd cyfnod cyntaf yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Ebrill 5.