Keith Davies AC
Mae Aelod Cynulliad Llanelli wedi galw ar i Gymru gael ei chanolfan darogan llifogydd ei hun.

Mae Cymru’n rhannu canolfan gyda Lloegr, yng Nghaerwysg, ac ar lawr y Senedd dywedodd Keith Davies fod sefydlu corff Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ebrill yn gyfle i agor canolfan yng Nghymru

“Yn ddiweddar mae fy etholaeth yn Llanelli wedi bod yn destun rhai rhybuddion tywydd amrywiol iawn o ran cywirdeb,” meddai’r AC.

“Rwyf wedi ysgrifennu at y Swyddfa Dywydd i godi’r pryderon sy’n cynnwys cyhoeddi rhybuddion munud-olaf, a methu adeiladu arnyn nhw er bod yr amodau’n gwaethygu a’u heffeithiau’n lledaenu.”

Yn ôl Keith Davies mae angen arbenigwyr sy’n gyfarwydd gyda thirwedd Cymru er mwyn gwneud y darogan mor gywir ag sy’n bosib.

“Mae tywydd drwg wedi taro Cymru dros y 12 mis diwethaf, sy’n ei gwneud hi’n bwysicach fyth fod rhybuddion ar gyfer Cymru yn gywir iawn,” meddai Keith Davies.

Mae gan yr Alban ei gwasanaeth ei hun

Mae’r Ganolfan Darogan Llifogydd yng Nghaerswysg yn fenter ar y cyd rhwng y Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae gan yr Alban ei gwasanaeth ei hun ar gyfer darogan llifogydd, yn Aberdeen a Perth.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa Dywydd, a gofynnodd am dystiolaeth bellach gan Keith Davies o ddarogan anghyson.