Mae awdurdodau lleol Cymru wedi cyhuddo pennaeth cwmni bwydydd o “geisio osgoi cyfrifoldeb” ar ôl iddo roi’r bai am yr helynt cig ceffyl ar ysgolion ac ysbytai.
Roedd Malcolm Walker, prif weithredwr cwmni Iceland o Lannau Dyfrdwy, wedi dweud fod awdurdodau lleol ac ysbytai ar fai am yrru prisiau bwydydd i lawr.
“Ysgolion, ysbytai – mae’n fusnes anferthol ar gyfer bwyd rhad ac mae awdurdodau lleol yn rhoi cytundebau ar sail un peth yn unig: y pris,” meddai Malcolm Walker.
Ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymateb trwy ddweud fod y “gyfraith yn hollol glir mai cyfrifoldeb y cynhyrchwr, y cyflenwr a’r gwerthwr yw gwneud yn siŵr fod y cynnyrch maen nhw’n ei werthu yn cyfateb i’r hyn maen nhw’n dweud yw e.”
“Mae methiant wedi bod yn y gadwyn gyflenwi,” ychwanegodd Steve Thomas, prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
“Nid bai cwsmeriaid, cynghorau neu ysbytai yw hynny. Mae angen i’r cwmnïau sy’n darparu ein bwyd gymryd cyfrifoldeb a chanolbwyntio ar roi trefn ar eu pethau nhw.
“Mae mwyafrif helaeth y manwerthwyr, arlwywyr a chynhyrchwyr yn gwneud hyn. Dylai Iceland wneud yr un peth.”
Mae’r Ysgrifennydd Amgylchedd yn San Steffan, Owen Paterson, yn cwrdd â’r archfarchnadoedd heddiw i bwyso arnyn nhw i wneud mwy i adfer hyder y cyhoedd mewn bwyd yn dilyn yr helynt cig ceffyl.