Myrddin ap Dafydd - wedi siarad ar ran y beirdd
Mae nifer o feirdd amlwg Y Talwrn yn gwrthod cymryd rhan yn y gyfres newydd o’r rhaglen radio, ac yn flin bod Myrddin ap Dafydd wedi siarad ar eu rhan wrth gytuno i roi diwedd ar eu boicot diweddar.

Roedd mwyafrif timau Y Talwrn wedi cefnogi aelodau Eos – Asiantaeth Hawliau Darlledu, yn yr anghyfdod gyda’r BBC tros freindaliadau. Trwy wneud hynny, roedden nhw wedi gwrthod recordio rhaglenni ers dechrau’r flwyddyn.

Ond heddiw, ben bore, fe gysylltodd Myrddin ap Dafydd – a fu’n casglu enwau’r timau oedd am gefnogi’r boicot – yn dweud wrth gapteniaid timau Talwrn fod y ‘streic’ bellach ar ben.

Ac ar ben hynny, roedd y Prifardd eisoes wedi cysylltu â Radio Cymru yn dweud fod y beirdd bellach “ar gael” i ail-ddechrau recordio cyfres y bu’n rhaid ei chanslo.

Ond mewn cyfres o negeseuon e-bost sydd wedi dod i olwg golwg360, mae’n amlwg na fydd o leia’ hanner dwsin o dimau amlwg yn cymryd rhan yn y gyfres eleni.

Y neges wreiddiol

“Mi fum yng nghyfarfod Eos yng Nghaernarfon nos Wener ddiwethaf a chael dipyn o agoriad llygad o gael y manylion yn llawn,” meddai Myrddin ap Dafydd wrth y capteniaid mewn e-bost am 7.20am heddiw.
“Yn dilyn y cyhoeddiad neithiwr, dwi wedi anfon y neges hon at Talwrn y Beirdd: Gan fod y BBC wedi dod i gytundeb gydag Eos, bydd y beirdd yn naturiol ar gael bellach i barhau â’u gwasanaeth i Radio Cymru.

“Deallwn mai cytundeb dros dro ydi hwn ac bydd yn arwain yn anorfod at setliad parhaol yn y pen draw.”

Pwy sy’n gwrthwynebu datganiad ‘blanced’ y beirdd?

Y cynta’ i ymateb oedd Karen Owen, capten tîm Y Rhelyw. Am 7.35am heddiw, fe ddywedodd: “Be’ ydi’r manylion sy’n newid pethau, achos dw i ddim yn gweld fod dim byd wedi newid o’n safbwynt ni? Efallai dy fod di mewn sefyllfa wahanol, fel cyfansoddwr caneuon yn ogystal a bardd y Talwrn.

“Os oedden ni’n streicio oherwydd ein bod yn cefnogi egwyddor y cerddorion a’n bod ni’n gwneud safiad ar ran Radio Cymru yn wyneb bygythiad o Lundain, onid ydi’r pethau hynny’n dal i sefyll?” meddai Karen Owen.

“Mae Llundain yn mynd ag Eos i dribiwnlys costus, mae Llundain efo’r llaw uchaf, ac mae Radio Cymru a’i rheolwyr yn gwbwl, gwbwl, ddiymadferth yn hyn i gyd.”

Pod ac Ifor ap Glyn
 

 

Y nesa’ i fwrw ei het i’r cylch oedd Arwel ‘Pod’ Roberts o dim Y Ship: “Mae’n rhaid i fi gytuno efo Karen – fedra’i ddim gweld fod ’na ddim byd wedi newid, tu hwnt i’r ffaith fod Eos wedi caniatau i gerddoriaeth aelodau gael ei chwarae tan fydd ’na gytundeb.

“Does ’na ddim cytundeb ar hyn o bryd, a than fydd ’na, fydda’i ddim yn cymryd rhan yn y Talwrn. Ac os nad ydi hynna’n gwella’r gyfres, wn i ddim be ‘neith…”

Yn fuan wedyn daeth Ifor ap Glyn o dîm Caernarfon: “Cytunaf hefyd. Ac ar lefel fwy ymarferol, mae’n dipyn haws caniatau chwara recordiau dros dro (a thynnu’r hawl yn ôl os aiff y trafodaethau i’r gwellt).

“Anos byddai cychwyn recordio cyfres Talwrn, ac yna tynnu nôl pe na bai cytundeb yn dod o’r trafodaethau cyfredol. Haws peidio cychwyn nes cael cytundeb pendant.”

Tywysogion, Dinbych a Thir Iarll

Ac meddai Mei Mac (tîm Y Tywysogion): “Dwi innau o’r un farn hefyd,” cyn i Eifion Lloyd Jones (capten tîm Talwrn Dinbych) anfon neges hefyd yn gwrthwynebu ail-afael yn y recordio:

“Rydw innau’n cytuno na fu unrhyw symudiad o werth o ran y BBC yn ganolog, a’i bod felly’n gynamserol i ni gydweithredu fel pe bai haul ar fryn.”

Fydd Aneirin Karadog (Tîm Tir Iarll) chwaith ddim yn cyfrannu i Radio Cymru tros fater egwyddor: “Wela i ddim fod yr anghydfod wedi dod i ben eto, a felly fydda i ddim yn cyfrannu i radio cymru am y tro,” meddai fel rhan o’r sgwrs e-bost yn dilyn neges Myrddin ap Dafydd.

Cwestiwn canwr

Ac yna fe ddaeth Geraint Lovgreen, bardd arall ar y Talwrn sy’n ganwr-gyfansoddwr: “Wyt ti’n aelod o Eos felly, Myrddin? Achos dydw i ddim (cwmni Sain sy’n aelod ar fy rhan, fel efo’r PRS gynt). Faswn inna wedi hoffi cael y manylion yn llawn!

“Dwi’n gweld bod llawer o’r beirdd yn teimlo nad ydi’r sefyllfa wedi newid, a dyna fy nheimlad i oni bai fod gen ti wybodaeth sydd ddim gennon ni.”
Beth oedd y nod?

“Cefnogi Eos wrth y bwrdd bargeinio yw’r bwriad. Os daw y BBC i gytundeb teg gydag Eos, ni fydd yn rhaid gweithredu fel hyn,” meddai Nici Beech wedyn, wrth ddyfynnu’r datganiad gwreiddiol a anfonwyd yn enw beirdd Y Talwrn at y wasg a’r cyfryngau gan Myrddin ap Dafydd.

“Gan nad oes ’na gytundeb teg eto, dwi’nna yn cydweld efo’r cyfeillion sydd eisoes wedi ymateb, ac am barhau i wrthod gwahoddiad y BBC i gyfrannu i’r Talwrn,” meddai Nici Beech.

Mewn neu mas?

Wedi derbyn neges Myrddin ap Dafydd ar ran beirdd Y Talwrn, fe gysylltodd cynhyrchydd y rhaglen gyda chapteiniaid bob un o’r 32 o dimau yn ystod y bore heddiw, yn gofyn pwy sy’n awyddus i gymryd rhan.

Roedd hynny’n digwydd heb i’r cynhyrchydd wybod nad oes “Heddwch” ar hyn o bryd…