Wrth i ni ddathlu pen-blwydd Iesu mae’r lladdfa erchyll yn ei wlad enedigol yn taflu cysgod dros y dathliadau hynny, meddai’r Parchg Jeff Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ei neges Nadolig.


Nid oes ateb milwrol i’r argyfwng hwn. Hyd yn oed pan ddaw’r lladdfa i ben, bydd hi’n anhygoel o anodd i ganfod cytundeb fydd yn sicrhau diogelwch parhaol i’r Israeliaid a’r Palestiniaid. Mae perygl y bydd y rhyfel hwn yn creu casineb am genedlaethau.

Rhaid i’r gymuned ryngwladol wneud popeth o fewn eu gallu yn wleidyddol, a hynny ar frys, i geisio rhoi stop ar y rhyfel. Mae hynny’n cynnwys addewid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â gwerthu mwy o arfau i Israel. A phan fydd yr ymladd drosodd, dylid dwyn i gyfrif pawb sydd wedi cyflawni troseddau rhyfel.

Yn y cyfamser, rhaid darparu cymorth dyngarol ar raddfa anferth i leddfu dioddefaint dinasyddion diniwed yn Gaza. Fel Cristnogion, dyna ein dyletswydd fel dilynwyr Tywysog Tangnefedd.