Mae Gweinidog Materion Gwledig Cymru wedi cyhoeddi y bydd Hybu Cig Cymru yn penodi Cadeirydd newydd fis Ebrill.

Catherine Smith fydd y ddynes gyntaf i ymgymryd â’r rôl ers i’r sefydliad sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru gael ei sefydlu yn 2003.

“Mae Catherine yn dod â thoreth o brofiad i’r rôl, ar ôl gweithio o fewn cadwyn gyflenwi cig coch am ddau ddegawd a gwasanaethu fel aelod o’r bwrdd ers 2017,” meddai Lesley Griffiths.

“Rwy’n falch iawn o gael cyhoeddi Catherine fel y Cadeirydd newydd, yn enwedig o ystyried mai hi fydd y fenyw gyntaf i ymgymryd â’r rôl – ac rwy’n gobeithio bod ei phenodiad yn adlewyrchu tueddiadau ehangach mewn busnes ledled Cymru, yn enwedig o fewn y sector amaethyddol.”

‘Ffermwyr a phroseswyr yw’r flaenoriaeth’

Mae gan yr ymgynghorydd busnes bwyd fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y sector cig coch.

“Ar ôl cael fy magu mewn teulu ffermio, a gweithio yn y sector bwyd am ugain mlynedd, rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Gadeirydd,” meddai Catherine Smith.

“Fy mlaenoriaeth fydd cyflawni ar gyfer ein talwyr lefi; ffermwyr a phroseswyr. Bydd hyn yn golygu adeiladu ein brandiau cig coch gan ddefnyddio marchnata dyfeisgar ac effeithiol, helpu ein diwydiant i fod mor broffidiol â phosibl, ac anelu at arwain y byd o ran ansawdd a chynaliadwyedd.

“Bydd y sefydliad yn parhau i gyflawni’r blaenoriaethau a amlinellir yng Ngweledigaeth 2025 ac yn cefnogi’r diwydiant i gynyddu ei broffidioldeb a’i gadernid, gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’r holl randdeiliaid yn y gadwyn gyflenwi.”

‘Ymateb i heriau diweddar’

Dywedodd Kevin Roberts, Cadeirydd presennol y sefydliad, ei fod yn falch o sut mae Hybu Cig Cymru wedi ymateb i’r heriau diweddar.

“Rwy’n falch o’r ffordd mae Hybu Cig Cymru wedi ymateb, gan gynyddu allforion cig oen a chig eidion yn sylweddol er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch Brexit, ac wedi chwarae ei ran wrth sbarduno twf mawr mewn gwerthiannau manwerthu domestig i helpu ffermwyr a defnyddwyr yn ystod pandemig Covid.

“Hoffwn i ddymuno’n dda i Catherine wrth iddi ymgymryd â rôl y Cadeirydd yn ystod y cyfnod cyffrous nesaf ar gyfer ein sector.”