Mae angen gwneud yn siŵr fod pobl ifanc sydd yn dymuno gwneud bywoliaeth yn y diwydiant amaeth a ffermio yn derbyn digon o gefnogaeth i wneud hynny.

Dyna farn Gwenno Pugh, enillydd y gyfres deledu Fferm Ffactor ar S4C eleni – a ddisgrifiodd y diwydiant fel un unigryw.

“Mae amaeth yn rhywbeth teuluol, ‘da chi dal yn gweld pobl yn  cymryd drosodd oddi wrth eu rhieni a chario ‘mlaen,” meddai Gwenno Pugh, o Dalsarnau ger Pwllheli, wrth golwg360.

“Mae’n ddiwydiant anodd i fynd mewn iddi os nad ydych chi’n dod o’r cefndir yna, achos ma’ ffermio yn un o’r pethau ti’n cael dy fagu i neud – mae o yn y gwaed. A ddim jyst ffermio chwaith, ond swyddi eraill o fewn y diwydiant amaethyddol.

“Roeddwn i’n siarad efo Emyr Jones [Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru] am hyn, ac yn meddwl ella bod ‘na ddim digon o gyfleoedd i bobl ifanc sydd eisiau gwneud. Mae lle i wella ar hynny dwi’n meddwl.

“Dwi’n meddwl bod lle i Lywodraeth Cymru gynnig mwy o help, yn enwedig efo pethau fel ffermydd bychan a sicrhau bod meibion fferm sydd yn dymuno mynd mewn i’r diwydiant yn gallu gwneud hynny.”

Merched llawn cystal

Llwyddodd Gwenno Pugh i ddod i’r brig yn y rownd derfynol a gafodd ei darlledu nos Fercher diwethaf, gan gael ei choroni’n enillydd Fferm Ffactor 2013 gan y ddau feirniad Aled Rees a’r Athro Wynne Jones.

Ac fe ddywedodd Gwenno, y ferch gyntaf i ennill y gyfres, bod ei chyfnod ar Fferm Ffactor hefyd wedi bod yn gyfle iddi ddangos bod yr oes yn newid yn y byd ffermio a bod merched yn medru gwneud gwaith llawn cystal â’r dynion.

“Roedd cystadlu ar Fferm Ffactor jyst yn rhywbeth i fi fy hun, a ffordd o ddangos mod i ar yr un lefel a’r dynion,” meddai Gwenno Pugh.

Doeddwn i ddim eisiau i’r beirniaid, a chwarae teg wnaethon nhw ddim, edrych arnom ni fel merched a dynion – ac roeddwn i ar eu lefel nhw drwy gydol y gystadleuaeth.

“Mae’r diwydiant ffermio yn newid rŵan, ‘di’r syniad ‘na o ddynes jyst yn priodi ffarmwr ac aros adra, a fo’n ‘neud y gwaith i gyd ddim yn wir ddim mwy. Mae ‘na gyfleoedd cystal i ferched erbyn hyn.”

Dal mewn sioc

Ond fe ddywedodd Gwenno, sydd yn ffermio moch, defaid a gwartheg yn nwy fferm y teulu, yn Nhalsarnau a Gaerwen, Ynys Môn, nad oedd hi wedi dod dros y fuddugoliaeth eto.

“Dydi o dal heb sincio fewn eto!” meddai. “Dwi ddim yn meddwl y bydd o tan mae’r pick-up [Isuzu D-Max Yukon 4×4, gwobr yr enillydd] yn cyrraedd.

“Dwi ‘rioed di ennill unrhyw beth o’r blaen! Mae’r teitl yn anrhydedd, a dwi’n falch mod i wedi gwneud fy hun, fy nheulu a ffrindiau yn prowd – ond ma’r pick-up yn wych hefyd!

“Roeddwn i’n reit dda yn y tasgau ymarferol a meddyliol, roedd cael amrywiaeth yn dda. Mae’r ffaith mod i wedi bod yn y coleg [yn Aberystwyth yn astudio Amaeth] ella wedi helpu.

“Y peth pwysig [yn y gystadleuaeth] ydi canolbwyntio ar chdi dy hun a sut ti’n ‘neud, ddim sbïo ar sut mae pawb arall yn ‘neud. Bod yn chdi dy hun, a pheidio â bod yn rhy orhyderus!”

Stori: Iolo Cheung