Mae Marks & Spencer wedi datgelu bod eu helw wedi gostwng 8% o’i gymharu â llynedd.
Dywedodd y cwmni fod eu helw cyn treth yn £320.5miliwn am y chwe mis hyd at 1 Hydref, gostyngiad o 8% am yr un cyfnod y llynedd a gostyngiad cyntaf y cwmni mewn elw ers dwy flynedd.
Dywedodd y prif weithredwr Marc Bolland bod M&S wedi bod yn ceisio cynnig gwell gwerth am arian i’w cwsmeriaid yn ystod amgylchiadau anodd.
Fe ddaeth y strategaeth ar adeg pan oedd y cwmni yn wynebu costau uwch, meddai.
Ond ychwanegodd fod pethau’n argoeli’n dda ar gyfer cyfnod y Nadolig.
Roedd cyfranddaliadau M&S 4% yn uwch bore ma.