Fe fydd Clwb Pêl-droed Bae Colwyn yn cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yr wythnos hon wrth iddyn nhw ystyried yr opsiwn o ddychwelyd i chwarae yng Nghymru wedi 35 mlynedd yn Lloegr.
Mae’r clwb yn dweud – er “yn anfodlon – eu bod nhw bellach yn ystyried dychwelyd i chwarae yng Nghymru “am resymau ariannol”.
“Mae calon y clwb yn dal yn Lloegr, ond all y clwb ddim fforddio aros yno mwyach,” meddai llefarydd wrth golwg360.
Problemau ariannol
Ar hyn o bryd, dydi Bae Colwyn ddim yn cael unrhyw grant i’w cynnal. Does dim ceiniog yn mynd yno gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru oherwydd eu bod yn chwarae yn adran y Northern Premier League Division One yn Lloegr
Dydyn nhw ddim yn cael grant gan Asiantaeth Bêl-droed Lloegr (FA) chwaith oherwydd eu bod yn dod o Gymru ac yn chwarae gemau cartref yr ochr yma i Glawdd Offa.
“Gobeithio, os ydan ni’n dod yn ôl i Gymru, y cawn ni arian,” meddai’r llefaryddd wedyn, “ond mae hynny yn rhywbeth mae angen i ni ei drafod gyda’r Gymdeithas Bêl-droed.
“Fel arall, mi fydd y clwb yn aros fel mae o ac yn hitio’r wal mewn dwy flynedd… chwarae efo llai o arian gan aros ar waelod y gynghrair bob blwyddyn.
“Ond mae Bae Colwyn wedi chwarae yn Lloegr am gymaint o flynyddoedd, mae gorfod gadael ychydig yn drist.”
Angerdd o hyd
Fe gafodd Uwch Gynghrair Cymru ei sefydlu yn 1992 ac ar yr adeg roedd nifer o glybiau Cymraeg gan gynnwys Caernarfon, Bangor, Y Rhyl a Bae Colwyn yn chwarae yn system Lloegr.
Galwodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar yr holl glybiau hyn i ymuno â’r system Gymraeg newydd, ac yn araf, fe ddechreuodd y clybiau hyn adael system Lloegr i ymuno ag Uwch Gynghrair Cymru.
Ond fe wrthododd Bae Colwyn, cyn mynd a’r achos i’r Uchel Lys yn Llundain er mwyn aros yn system Lloegr.
Buddion system Cymru
Mae newid o system Lloegr i system Cymru yn golygu arian gan UEFA i redeg academi ar ben grantiau gan Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae mynd drwodd i Ewrop yn golygu gwobr o £1m hefyd.
Er mwyn gadael system Lleogr mae’n rhaid i Fae Colwyn wneud penderfyniad cyn Mawrth 31.
Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru’r wythnos hon, ac mae golwg360 wedi gofyn am eu hymateb.