Logo'r ymgyrchu ar wefan uneb y diffoddwyr tan
Diffoddwyr tân yw’r grŵp diweddara’ i fygwth streicio’n erbyn cynlluniau pensiwn Llywodraeth Prydain.
Fe gyhoeddodd undeb yr FBU y byddan nhw’n gofyn i’w 43,000 o aelodau bleidleisio ar y posibilrwydd o weithredu diwydiannol.
Fe fydden nhw wedyn yn ymuno gyda rhai o brif undebau’r gwasanaethau cyhoeddus – fel Unite ac Unison – a gydag undebau athrawon a darlithwyr.
Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i Gyngres yr Undebau Llafur – y TUC – wrthod y cynlluniau sy’n golygu y byddai’n rhaid i weithwyr cyhoeddus dalu mwy o gyfraniadau a chael llai.
Mwy na miliwn
Maen nhw’n darogan y bydd mwy na miliwn o weithwyr yn cymryd rhan mewn gweithredu sy’n cael ei drefnu ar y cyd. Y disgwyl yw cyfres o streiciau undydd, yn dechrau ym mis Tachwedd.
“Fydd criwiau tân ddim yn talu am gamgymeriadau ffrindiau’r Canghellor ym myd bancio sydd wedi dod â’r sefyllfa ariannol gyhoeddus i’r fath gyflwr,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr FBU, Matt Wrack.
Mae wyth mlynedd ers y streiciau diwetha’ gan weithwyr tân a dyw cerbydau’r fyddin – y Green Goddesses – ddim ar gael bellach i lenwi’r bwlch.