Mae HWB Caernarfon yn dweud ei bod hi wedi bod yn dda cael cydweithio a chael cefnogaeth busnesau lleol ar brosiect sydd â’r nod o sicrhau bod siopau bach gwledig yn gallu cystadlu â siopau ar-lein.
Mae’r prosiect Strydoedd Unigryw yn ceisio adnabod ffyrdd y gall strydoedd mewn cymunedau gwledig gystadlu gyda chanolfannau siopa ar-lein er mwyn cynyddu niferoedd eu hymwelwyr a’u hincwm.
Mae dirywiad canol trefi yng Ngwynedd yn bryder sylweddol, ond mae’r cynllun Strydoedd Unigryw yn ceisio mynd i’r afael â’r her hon gan ddefnyddio datrysiadau creadigol.
Mae tystiolaeth yn dangos bod siopau ar-lein, canolfannau siopa mawr ac archfarchnadoedd wedi cael effaith negyddol ar fasnach canol trefi ers tro, ac mae hynny yn ei dro wedi cyfrannu tuag at ddirywiad trefi.
Bwriad y cynllun hwn yw cynorthwyo trefi sir Gwynedd i addasu a chreu profiad unigryw fydd yn denu pobol yno.
Yn dilyn galwad agored, cafodd Caernarfon, Cricieth a Nefyn eu dewis i fod yn rhan o’r cynllun.
Ymbarelau yng Nghaernarfon
“Gosodwyd yr ymbarelau amryliw hyn uwchben Stryd y Plas, Caernarfon, a gan mai dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yn y wlad, derbyniom gryn dipyn o sylw!” meddai Gavin Owen o HWB Caernarfon.
“Mae hi wedi bod yn dda cydweithio a chael cefnogaeth y busnesau lleol wrth ddatblygu’r cynllun yma.
“Mae yna ymbarelau amryliw tebyg wedi eu gosod yn yr Ŵyl Gelf AgitAgueda ym Mhortiwgal ers rhai blynyddoedd.
“Mae’r gosodiad celf yna wedi denu miloedd i’r dref ar ôl i luniau o’r ymbarelau gael eu rhannu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
“Rydan ni’n ffyddiog y bydd hyn yn digwydd yma yng Nghaernarfon hefyd gan roi budd i fusnesau yng nghanol y dref.”
Cafodd technoleg HWB Caernarfon ei defnyddio i fonitro lefelau ymwelwyr y stryd, ac roedd yn glir bod yr ymbarelau wedi cynyddu’r lefelau hyn.
Roedd yn bosib gadael y ceblau uwchben y stryd er mwyn eu hailddefnyddio i greu gwahanol osodiadau celf yno yn dibynnu ar dymhorau a digwyddiadau.
Parti ar y Pafin yn Nefyn a digwyddiad creadigol yng Nghricieth
Cafodd ‘Parti ar y Pafin’ ei gynnal ar Stryd Fawr Nefyn fel digwyddiad i ddod â’r holl gymuned at ei gilydd i fwynhau cerddoriaeth byw, bwyd blasus a gweithgareddau oedd yn addas ar gyfer pob cenhedlaeth.
Roedd hyn yn bosib diolch i gefnogaeth a brwdfrydedd y gymuned, gyda thros 900 o bobol yn mynd i’r digwyddiad.
Cafodd ‘Y Digwyddiad Creadigol’ ei gynnal yng Nghricieth, a thema’r diwrnod oedd ‘Welsh Incident’, sef cerdd Robert Graves am ddigwyddiad dychmygol yn y dref yn 1929.
Daeth 1,000 o bobol at ei gilydd i fwynhau arddangosfeydd, gweithdai celf, perfformiadau, a bwyd a diodydd lleol yn y digwyddiad hwnnw.
Rai misoedd wedyn, cafodd cerflun a gafodd ei greu i geisio crisialu ysbryd cerdd Graves ei ddadorchuddio, a’r gobaith yw y bydd yn denu sylw i’r dref ac yn ychwanegu gwerth at brofiad ymwelwyr.