George Osborne - dan fwy o bwysau
Fe ddaeth y Canghellor dan bwysa rhyngwladol unwaith eto i newid ei dactegau economaidd.

Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol, yr IMF, wedi rhybddio fod peryg tymor hir i ffyniant yng ngwledydd Prydain oherwydd y diffyg twf.

Roedd y Deyrnas Unedig yn dal i fod ymhell o gael “adferiad cry’ a chynaliadwy” meddai’r Gronfa yn ei hadroddiad diweddara’.

Er fod cynnydd yn y farchnad geir ac mewn swyddi sector preifat ac er fod mwy o hyder ym myd busnes, roedd yr arbenigwyr rhyngwladol yn poeni am ddiffyg buddsoddi a diweithdra ymhlith pobol ifanc.

Er eu bod hefyd yn cefnogi ymgais Llywodraeth Prydain i dorri’r diffyg ariannol tymor hir, roedd angen mesura eraill i roi’r gobaith o dwf, medden nhw.