Gwion Lewis
Mae bargyfreithiwr yn dweud wrth rieni sy’n ymgyrchu tros fwy o addysg Gymraeg, bod angen iddyn nhw wneud mwy o ddefnydd o’r llys barn.

Heno, fe fydd Gwion Lewis yn annerch cyfarfod blynyddol Rhieni dros Addysg Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, Casnewydd.

Bydd yn cyfeirio’n benodol at ymgyrch lwyddiannus yn Sir Ddinbych i gadw Ysgol Pentrecelyn ger Rhuthun ar agor yn dilyn ymgais Cyngor Sir Ddinbych i’w uno ag ysgol ddwyieithog.

Dyma oedd y tro cyntaf erioed i lys ymyrryd mewn achos i gau ysgol oherwydd methiant i asesu’n ddigonol beth fyddai effaith cau’r ysgol ar yr iaith Gymraeg, ac yn dilyn tro pedol gan y cyngor mae’r ysgol yn parhau i fod yn un categori iaith 1.

“Wrth baratoi achos Ysgol Pentrecelyn y llynedd, daeth yn amlwg i mi nad dyma’r unig enghraifft ddiweddar o benderfyniadau pellgyrhaeddol yn cael eu gwneud yn y maes addysg yng Nghymru ar sail asesiadau ieithyddol cwbwl ddiffygiol,” meddai Gwion Lewis.

“Mae angen gwneud mwy o ddefnydd o’r llys i herio penderfyniadau o’r fath. Rwy’n awyddus i drafod tactegau cyfreithiol posib gydag eraill sy’n rhannu fy mhryderon.”

Ysbrydoliaeth Pentrecelyn

“Mae’n fraint cael croesawu siaradwr gwadd mor nodedig atom eleni,” Cadeirydd Cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg dywedodd Lynne Davies.

“Trwy osod chwyddwydr ar hanes Ymgyrch Pentrecelyn, rydym yn edrych ymlaen at glywed Gwion Lewis yn pwyso a mesur arwyddocâd y frwydr honno yng nghyd-destun ehangach twf Addysg Gymraeg.”