Fe fydd swyddogion addysg yn cynnal digwyddiad yng ngwesty’r Hilton Caerdydd yr wythnos nesa’ i drafod Strategaeth Ddrafft Addysg Uwch.

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn awyddus ddydd Mercher nesa’ (Hydref 19) i drafod y straetegaeth newydd fydd yn cynnwys awgrymiadau ar sut i fynd ati i graffu ar berfformiad prifysgolion a sefydliadau eraill a reoleiddir gan y corff.

Fe fydd y brif araith yn cael ei chyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC a bydd hi’n datgan blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch.

Ymysg y siaradwyr eraill fydd David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC a Kate Carr, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Ymgysylltu a Chyfathrebu – Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol.