Gwenllian Lansdown Davies
Mae’r Mudiad Meithrin wedi galw am gael rhan lawn yn y drafodaeth ar addysg i blant bach yn sgil cyhoeddi Adroddiad Donaldson ar ddyfodol addysg yng Nghymru.
Mae’n hanfodol fod y mudiad yn cael ei gynnwys wrth i bolisïau newydd gael eu llunio, meddai Prif Weithredwr y Mudiad, Gwenllian Lansdown Davies.
Yn sgil sgyrsiau gyda’r Llywodraeth, mae hi’n obeithiol y bydd hynny’n digwydd er ei bod yn “poeni’n arw”, meddai, am nad oedd yr Adroddiad yn sôn am fudiadau gwirfoddol.
‘Rôl allweddol’
Roedd gan y Mudiad hefyd rôl allweddol oherwydd y Gymraeg, meddai Gwenllian Lansdown Davies ar ôl cyfarfod i drafod datblygu gweithlu yn y maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yno hefyd, mae AcadeMi newydd y Mudiad wedi ei lansio gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Fe fydd gwaith hwnnw’n dechrau ym mis Medi ac mae prosbectws eisoes wedi ei gyhoeddi ar gyfer cyrsiau, a fydd yn benna’ ar-lein.
- Fe fyddan nhw ar gael i’r 3,000 o bobol sy’n ymwneud â’r Mudiad, meddai’r Dirprwy Gyfarwyddwr, Dona Lewis – mae’r rheiny’n cynnwys staff cyflog a gwirfoddolwyr.
- Fe fydd hefyd yn creu rhwydwaith i unigolion a chylchoedd meithrin drafod gyda’i gilydd.
- Un elfen arall fydd math o Gylch Meithrin hyfforddi, a fydd yn cael ei ddechrau’n arbrofol yng Nghaerdydd, gyda’r gobaith o ymestyn y syniad trwy Gymru.
Fe fydd hwnnw’n rhoi cyfle i bobol gael profiad uniongyrchol o waith mewn cylch.
Rhannu arbenigedd
Yn ôl Dona Lewis, un bwriad yn y pen draw yw gallu cynnig arbenigedd y Mudiad i hyfforddi gweithwyr gofal plant mewn cyrff eraill.
Mae cael gweithwyr sy’n gallu cyflwyno plant i’r Gymraeg trwy’r dull ‘trochi’ o ddysgu – gan ddefnyddio dim ond Cymraeg – yn allweddol, meddai Gwenllian Lansdown.