Efallai y bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â helynt Cofnod Cymraeg y Cynulliad a’i bwysigrwydd i’r Gymraeg ledled Cymru.

Ond i’r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod, mae Aelodau Cynulliad yn pleidleisio heddiw ar ddeddfwriaeth a fydd yn fframio sut bydd y Cynulliad yn trin y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd i ddod.

Yn y 90au un o addewidion datganoli oedd creu llais newydd i Gymru gyda sefydliad a fyddai â grym dros faterion polisi domestig, ond nid hynny yn unig, byddai’n creu math newydd o wleidyddiaeth. Mi oeddwn i fel llawer o bobl eraill yn cefnogi pleidlais “Ie” yn rhannol oherwydd bod yna obaith o greu sefydliad newydd a fyddai’n parchu hawliau i’r Gymraeg ymysg nifer o bethau eraill fel hawliau menywod a’r amgylchedd.

Yn anffodus, nid ydy’r addewid hwnnw wedi’i wireddu’n llawn. Rydyn ni wedi gweld mai defnydd isel sydd o’r Gymraeg yn y Cynulliad. A dros y tair blynedd diwethaf, gwelwyd cwtogi ar fuddsoddi mewn gwasanaethau Cymraeg yn y Cynulliad. Mewn termau real roedd yn doriad o dros 14%, tra bod cyllideb y Cynulliad, ar y cyfan, wedi cynyddu’n sylweddol.

Cywilydd cenedlaethol

Yn 2009, fe wnaeth eu gweithredoedd ennyn cywilydd cenedlaethol wedi i’r bwrdd sydd yn rhedeg ein deddfwrfa genedlaethol, Comisiwn y Cynulliad, benderfynu diddymu fersiwn Cymraeg Cofnod o drafodion ei sesiynau llawn yn gyfan gwbl, yn groes i’w gynllun iaith ei hun. Dinistriodd y penderfyniad hwnnw enw da’r Cynulliad fel sefydliad a ddylai fod ar flaen y gad o ran y Gymraeg, gan ddanfon neges i holl sefydliadau eraill Cymru nad yw’r Gymraeg yn hanfodol i’n deddfwrfa genedlaethol.

Cychwynnodd y Gymdeithas ymgyrch dorfol yn erbyn y penderfyniad. Bellach, yn dilyn yr ymgyrch honno ac ymchwiliad statudol i’r mater a ddyfarnodd yn erbyn y Comisiwn, cafodd Cofnod dwyieithog ei adfer.

Ond yn groes i argymhellion Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar y pryd, holl egwyddor cydraddoldeb, a safonau drafft Comisiynydd y Gymraeg, nid yw’r fersiwn Gymraeg ar gael ar yr un pryd â’r fersiwn Saesneg. Hefyd, yn groes i argymhellion pwyllgor trawsbleidiol, ni fydd holl drafodion y Cynulliad ar gael yn Gymraeg, gyda thrafodion pwyllgorau yn dal i fod ar gael yn Saesneg yn unig.

Gobaith o adfer ei enw da

Fodd bynnag, fel yr adroddwyd gan Golwg360 yr wythnos diwethaf, diolch i’r Aelodau Cynulliad Aled Roberts a Suzy Davies, mae yna obaith y gallai’r Cynulliad adfer ei enw da a sicrhau bod cofnod o holl drafodion y Cynulliad yn cael ei gyhoeddi yn llawn yn Gymraeg ar yr un pryd â’r Saesneg.

Bydd gan aelodau gyfle i bleidleisio dros eu gwelliannau i’r Bil Ieithoedd Swyddogol heddiw. Gobeithiwn fod ein gwleidyddion yn deall bod disgwyliadau arnynt i roi cydraddoldeb i’r ddwy iaith ac i arwain y ffordd i’r holl sefydliadau eraill yng Nghymru.

Y cwestiwn sylfaenol sydd yn wynebu Aelodau Cynulliad felly yw: a ydyn nhw am adfer addewid datganoli a gosod y Gymraeg yn ganolog i’w holl weithredoedd, neu ei gadael ar yr ymylon?  Yn anffodus, rydyn ni wedi clywed rhai gwleidyddion yn dadlau bod y Gymraeg yn rhy gostus, rhai nad wyf erioed wedi eu clywed yn cwestiynu cost cynnal democratiaeth trwy gyfrwng y Saesneg.

Ymateb ffyrnig

Bu i’r Western Mail hefyd ddod i wybod yn o sydyn ble roedd pobl Cymru yn sefyll yn dilyn ymateb ffyrnig i’w hawgrym na ddylai’r Gymraeg fod yn ganolog i’n democratiaeth oherwydd y gost.

Fe glywir eraill yn dadlau bod dewis rhwng statws y Gymraeg a’i ddefnydd, sydd, yn gyfleus iawn, yn anwybyddu’r ffaith mai effaith dileu’r Cofnod y Gymraeg oedd llai o fuddsoddiad yn y Gymraeg gan Gomisiwn y Cynulliad yn ei gyfanrwydd.

Dadl sydd hefyd yn anwybyddu’r ffaith amlwg bod statws y Gymraeg a’i defnydd yn dibynnu ar ei gilydd, ac yn diystyru cyfraniad pwysig dogfennau Cymraeg y Cynulliad at gorpws y Gymraeg.

Trafodaeth agored a rhydd

Rydyn ni wedi ysgrifennu at y pleidiau yn gofyn am bleidlais rydd heddiw, sef bod Aelodau yn pleidleisio yn annibynnol o farn eu plaid ar y mater yn hytrach na chytuno fel grŵp ymlaen llaw sut i bleidleisio.

Rydym wedi gofyn hynny gan fod Aelod Cynulliad o bob plaid yn rheoli Comisiwn y Cynulliad, a gan fod y Gymraeg yn bwysicach na gwleidyddiaeth bleidiol arferol. Mae’r Gymraeg – ei chefnogwyr, ei defnyddwyr a’i dysgwyr – yn haeddu trafodaeth agored a rhydd am y materion hyn heddiw.

Mae’r Gymdeithas yn dal i gredu yn addewid gwleidyddiaeth newydd datganoli. Gobeithiwn yn fawr y gwelwn ni fod fflach y gobaith hwnnw dal yn fyw heddiw.

Sian Howys yw llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – sian@cymdeithas.org