Dylan Iorwerth yn dadlau bod diwygio etholaethau seneddol yn galw am ddiwygio ar lefel y Cynulliad Cenedlaethol hefyd.
Ro’n i’n arfer bod yn hoff iawn o wneud jig-sos. Ond roedd hi’n gythrel o beth pan oedd darn ar goll.
Felly, dw i’n deall yn iawn sut y mae ASau Cymru’n teimlo heddiw wrth i Dŷ’r Cyffredin baratoi i basio’r mesur a fydd yn torri nifer yr aelodau Cymreig o 40 i 30.
Do’n i ddim yn arbennig o hoff o bartïon pen-blwydd a’r orfodaeth i chwarae gemau fel miwisical tjêrs. Ro’n i’n cynhyrfu gormod ac yn cymryd y peth ormod o ddifri’.
Felly, dw i’n tybio mai rhyw deimlad tebyg sydd gan yr ASau ym mhwll eu stumogau wrth wynebu’r posibilrwydd y bydd yn rhaid iddyn nhw ymladd ei gilydd am y seddi sydd ar ôl.
Mae hynny’n golygu ymladd cyd-aelodau yn eu pleidiau eu hunain, yn gymaint ag ymgeiswyr o’r pleidiau eraill. Ac, fel y gŵyr pawb, mae ffrae deuluol yn waeth na’r un arall.
Yr effaith
O ran effaith y mesur newydd, allwch chi ddim diystyru pa mor ddifrifol ydi’r argyfwng personol i nifer sylweddol o ASau, ond mae yna oblygiadau mawr o ran Cymru hefyd.
O ran egwyddor, mae’n iawn fod seddi ar draws gwledydd Prydain rhywle tua’r un maint.
Ond mae angen sens hefyd ac mae angen cofio am yr anawsterau o ddelio ag ardaloedd gwledig prin eu poblogaeth o’u cymharu ag ardaloedd trefol dwys, lle mae pawb o fewn dwy neu dair milltir sgwâr.
Felly, mae’r ffigwr o 30 yn un peryglus o hawdd, wedi ei seilio ar ffigurau noeth, yn hytrach na gofynion daearyddiaeth na chymdeithas.
A derbyn yr amheuaeth yna, allwn ni ddim cwyno gormod bod nifer y seddi’n lleihau rhywfaint – oherwydd maint ac oherwydd bod gwaith ASau Cymru wedi lleihau ers datganoli.
Ond mae’r ddadl honno’n dibynnu ar un angen arall – am ddiwygio’r berthynas rhwng gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig a datrys y dryswch o gael Tŷ’r Cyffredin sy’n senedd i Loegr a Phrydain yr un pryd.
Mae’r newid i 30 sedd hefyd yn awgrymu angen am ddiwygiol ar lefel y Cynulliad. Fel arall, mi fydd y drefn wleidyddol yng Nghymru’n fwy cymhleth nag erioed.
Heb newid pellach, fydd seddi San Steffan a seddi’r Cynulliad ddim yr un peth. Mi allwch fod mewn un etholaeth ar gyfer Llundain ac un arall ar gyfer y Bae.
Mwy o seddi Cynulliad
Yr ateb amlwg ydi cael 30 o etholaethau ar gyfer y Cynulliad a dau aelod ar gyfer pob un. Gan ddefnyddio pleidleisio cyfrannol wrth reswm.
Os ydi baich gwaith ASau wedi gostwng ac os bydd yn gostwng ymhellach ar ôl refferendwm 3 Mawrth, mae deddfau ffiseg yn awgrymu bod baich ACau wedi cynyddu.
Hyd yn oed cyn hyn, roedd yna ddadl tros gael rhagor o aelodau er mwyn sicrhau fod y gwaith deddfu a chraffu a chreu i gyd yn cael eu gwneud yn iawn.
Ac, wrth gwrs, mae’r broblem o’r craffu ychwanegol fydd ei angen heb ail siambr debyg i Dŷ’r Arglwyddi.
Be am syniad fel hyn? Trigain o ACau’n cael eu hethol i gynrychioli 30 o seddi a 30 o ACau rhanbarthol yn cael eu hethol efo’r swyddogaeth arbennig o fod yn fath o ‘ail farn’ i graffu ar fesurau newydd?