Eleni bydd Fforwm Agored yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol i  roi cyfle i bawb gyfrannu at drafodaeth ar gyfeiriad a dyfodol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Maia Jones,
myfyrwraig Meistr yn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth sy’n dweud mwy…

Y Coleg

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) yn 2011 gyda’r amcan o hyrwyddo addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’n gweithio ar batrwm ffederal gyda’r mwyafrif o’r cyfarwyddwyr wedi’u hapwyntio gan Lywodraeth Cymru i  gynrychioli’r gwahanol brifysgolion.

Gwireddu breuddwyd R J Derfel

Gellir gweld datblygiad y CCC fel gwireddiad o freuddwyd y cenedlaetholwr a’r sosialydd blaengar, R J Derfel. Cymaint yn ôl â 1865 dadleuai Derfel dros addysg uwch Cymreig lle ‘byddai’r iaith Gymraeg yn brif iaith’.

Y Cyfarwyddwyr Cysgodol

Er mwyn hyrwyddo addysg uwch Cymraeg a Chymreig ac i gadw llygad ar ddatblygiad y CCC sefydlwyd Corff Cysgodol Annibynnol i gynnig beirniadaeth adeiladol ar gynlluniau a gweithgareddau’r CCC. Mae’r Corff Cysgodol yn agored i bob cefnogwr addysg Gymreig ac fe’i harweinir gan ddeuddeg o gyfarwyddwyr gwirfoddol.

Gwireddiad o ddifri?

Yn codi o weledigaeth R J Derfel, a nifer ar ei ôl, y daw un o brif argymhellion y corff cysgodol, sef y dylai addysg Gymreig olygu llawer mwy na chyfrwng gwahanol. Un o’r prif faterion i’w drafod yn y Fforwm  yw’r angen am gyrsiau wedi’u seilio ar gynnwys gwahanol. Cynnwys wedi’i ddatblygu’n ymwybodol ar sail paradeim academaidd gwahanol yn codi o bersbectif diwylliannol Cymreig.

Y Fforwm

Y cyfarwyddwyr cysgodol ynghyd â Chymdeithas Yr Iaith Gymraeg sy’n trefnu’r Fforwm Agored yn yr Eisteddfod i roi cyfle i bawb i gyfrannu at y drafodaeth ynglŷn â chyfeiriad y Coleg CC. Bydd yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, 8 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 2yh.