Yn cyflwyno … Kinga Uszko

Kinga Uszko yw’r drydedd o’r tair myfyrwraig o Wlad Pwyl sydd wedi dod i dreulio cyfnod gyda chwmni Golwg dros yr haf.

Kinga Uszko ‘dw i. Dwi’n fyfyrwraig o Wlad Pwyl o brifysgol ym Mhoznań. Dw i’n dod yn wreiddiol o Silesia Isel ond dw i’n byw ym Mhoznań nawr.

Dwi’n astudio ieithoedd Celtaidd fel Cymraeg a Gwyddeleg a dwi’n astudio rhaglennu hefyd. Dw i wedi gweithio mewn newyddiaduron yng Ngwlad Pwyl a dw i wedi ysgrifennu erthyglau yn Saesneg a Phwyleg. Dw i wedi gweithio fel cyfieithwraig hefyd ond mae hi’n siawns fawr imi i ddatblygi fy sgiliau.

Ymhellach, dw i wedi sefydlu Cymdeithas Geltaidd Myfyrwyr AMUCELT mewn prifysgol Adam Mickiewicz ym Mhoznań a fi yw’r chadeirydd. Rydan  ni (AMUCELT) wedi trefnu digwyddiadau Celtaidd ym Mhoznań, fel Samhain ac ry’n ni’n gweithio gyda thafarnau a phrifysgolion eraill.

Dw i wedi graddio fy ngradd baglor mewn ieithoedd Celtaidd llynedd, ac roedd fy ngwaith am ôl-fywyd ac Annwfn ym Mabinogi. Dw i wedi cyhoeddi fy ngwaith am Iwerddon a dw i’n gweithio am fy M.A nawr. Mae fy M.A am enwau Cymraeg a Phwyleg. Mae eisiau arna i i gymharu grwpiau o enwau fel enwau torfol, enwau lluosog a plurale tanta a singulare tanta hefyd. Roedd angen hefyd i mi ysgrifennu am dafodieithoedd yng Nghymru ond doedd dim posib yn y flwyddyn hon.

Dw i wedi dysgu Cymraeg yn y brifysgol ers pedair blynedd. Rydw i eisiau bod yn gyfreithwraig neu newyddiadurwraig ar ôl cwblhau fy M.A, os mae posib yng Nghymraeg, ond mae posib y bydda i’n wneud fy PhD mewn Prifysgol Adam Mickiewicz neu mewn prifysgol arall.

Dw i ddim fel iâr dan badell a dw i’n gallu gweithio’n galed. Roeddwn i eisiau gweithio gyda Golwg360 oherwydd mae’n dilyn straeon yn  y Gymraeg am faterion pwysig i gymuned Gymraeg a materion pwysig i Brydain hefyd.

Nawr, tipyn bach am fy niddordebau: dw i’n hoffi llenyddiaeth a gramadeg ond fy hoff bwnc yw tafodieithoedd.

Hoffwn i ddefnyddio Cymraeg  ac astudio mwy na mewn Prifysgol. Hoffwn i siarad gyda phobl ac os yn bosib, hoffwn i ysgrifennu am ddigwyddiadau lle mae Cymraeg yn cael ei ddefnyddio. Beth mwy am fy nisgwyliadau? Rydw i  eisiau cyfrannu i’r iaith Gymraeg  achos dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn i gefnogi ieithoedd fel Cymraeg.

Dwi’n gweithio am eiriadur newydd Cymraeg-Pwyleg nawr a bydd e’n gyntaf yn y byd heb ddefnyddio’r Saesneg a hoffwn i gael cwnsel am eiriau hynafol y dylid eu cynnwys mewn geiriadur fel hwn.  Dw i’n credu bod Cymraeg yn iaith brydferth ac mae ‘na lawer o lenyddiaeth dda ynddo. Hefyd, dw i’n credu bod yn rhaid i’r iaith Gymraeg amddiffyn ei hawliau.