Huw Prys Jones yn holi beth fydd oblygiadau dathliadau’r Jiwbili  i Gymru a’r Alban

Tybed sut oedd Alex Salmond yn teimlo mewn gwirionedd yng ngwasanaeth Jiwbili’r Frenhines yng Nghadeirlan Sant Paul y bore yma?

Mewn datganiad ddoe, roedd o’n dweud cymaint yr oedd yn edrych ymlaen, gan ychwanegu bod pobl yr Alban yn hoff iawn o’r Frenhines.

Does gen i ddim rheswm dros amau ei osodiad. Wedi’r cwbl, yng nghyd-destun yr Alban, mae bod yn genedlaetholwr ac yn frenhinwr yn safbwynt digon credadwy. Fe fu undod brenhinol rhwng yr Alban a Lloegr ymhell cyn bod undod gwleidyddol rhwng y ddwy wlad. Dydi’r undod brenhinol hwnnw ddim yn seiliedig ar goncwest milwrol chwaith fel yn achos Cymru. O’r herwydd, mae’r teulu brenhinol yn ‘perthyn’ i’r Alban mewn ffordd na all fyth berthyn i Gymru.

Ar yr un pryd, mi fydd Alex Salmond wedi sylwi ar y môr o Brydeindod sydd wedi ymchwyddo trwy Brydain y penwythnos yma. Fydd fawr ddim amheuaeth yn ei feddwl y bydd y teimladau yma’n cael ei ddefnyddio’n ddidrugaredd er mwyn cynnal undod y wladwriaeth dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae’n wir na fydd unoliaethwyr yn medru defnyddio teyrngarwch at y Frenhiniaeth fel arf uniongyrchol yn ei erbyn. Ond mi fydd agweddau pobl at y Frenhines yn arf cryf ar gyfer cryfhau’r teimlad o berthyn i ryw fath o dreftadaeth gyffredin.

*   *  *

O weld llwyddiant Alex Salmond i gyfuno’i agweddau cenedlaetholgar a brenhingar, mae rhai cenedlaetholwyr Cymreig yn gofyn a oes ganddo wersi i’w dysgu i Gymru, ac yn benodol i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Rhaid deall fodd bynnag fod Cymru a’r Alban yn ddau achos cwbl wahanol lle mae’r frenhiniaeth yn y cwestiwn.

I ddechrau, does dim amheuaeth mai rhan o apêl Leanne Wood i aelodau ei phlaid oedd ei gwrth-frenhiniaeth. Mae hynny – er gwell neu er gwaeth – yn rhywbeth sy’n rhan o psyche diwylliannol cenedlaetholdeb Cymreig.

Mae’n ddigon tebyg mai gwrthwynebu’r teulu brenhinol ar sail eu Seisnigrwydd y mae llawer o genedlaetholwyr Cymreig traddodiadol yn hytrach nag ar sail gweriniaethol pur. Does dim byd yn sylfaenol o’i le yn hynny. Wedi’r cwbl, hil a thras ydi holl hanfod yr hyn y mae’r frenhiniaeth yn seiledig arno, felly all neb feirniadu os oes pobl yn eu gwrthwynebu ar sail eu hil a’u tras. Y ffaith ydi, am resymau hanesyddol na ellir eu hosgoi, mae brenhiniaeth Lloegr yn symbol o’n darostyngiad fel Cymry ac o oruchafiaeth y Saeson.

Dyna pam na fyddai’r math o genedlaetholdeb sy’n cael ei arddel gan Alex Salmond yn debygol o weithio yng Nghymru. Ac yn absenoldeb unrhyw deulu brenhinol ein hunain, dyna pam fod agweddau gweriniaethol yn boblogaidd ymysg cenedlaetholwyr Cymreig.

Dydi hynny, wrth gwrs, ddim yn golygu o angenrheidrwydd fod y math yma o genedlaetholdeb digyfaddawd yn drywydd doeth i Blaid Cymru ei ddilyn. Am bob un o anian Leanne Wood yn y Cymoedd, mae’n sicr fod gynnoch chi ddeg sydd ag agweddau tebycach i Simon Weston.

Y gwir ydi y dylai brwdfrydedd y dathlu’r penwythnos yma fod yn rhybudd i genedlaetholwyr Cymru a’r Alban rhag mynd dros ben llestri yn eu cred bod y wladwriaeth Brydeinig ar ei gwely angau.

Mi fydd y dathliadau, wrth gwrs, wedi cadarnhau a chryfhau’r teyrngarwch sy’n sicr o barhau i’r Frenhines bresennol am weddill ei theyrnasiad. Ond fedrwn ni ddim dehongli’r dathliadau fel eilun addoliaeth o’r teulu brenhinol yn unig chwaith.

Bychanu’n hunain fyddai inni ddiystyru apêl y dathliadau i fwyafrif llethol pobl Cymru a’r Alban yn ogystal â Lloegr. Os am hybu achos hunan-lywodraeth y ddwy wlad, rhaid fydd ennyn gwell dealltwriaeth o agweddau eu pobl at Brydeindod yn ogystal. Ac atgoffa’n hunain efallai o beryglon y bwystfil Prydeinig os ydi o’n cael ei gynhyrfu’n ormodol.

Tipyn o waith meddwl go galed i genedlaetholwyr Cymru a’r Alban dros y blynyddoedd nesaf, debygwn i.