Ifan Morgan Jones, Prif Is-olygydd gwefan Golwg 360, sy’n gofyn pam bod angen symud y Cabinet o un brifddinas i’r llall…
“Os yw coeden yn disgyn yn y goedwig a does neb yn ei glywed, ydi o’n gwneud sŵn?” Dyna’r pos athronyddol enwog.
Gadewch i mi ail-lunio’r cwestiwn. “Os ydi Cabinet San Steffan yn cyfarfod yng Nghaerdydd a does neb yn gwybod ble maen nhw, ydyn nhw yno mewn gwirionedd?”
Nid pos athronyddol yw’r ail gwestiwn. Bydd Cabinet llywodraeth San Steffan yn cyfarfod yng Nghymru am y tro cyntaf yn ei hanes yfory.
Bydd y Prif Weinidog, Gordon Brown, ac aelodau’r cabinet yn ymgynnull am eu cyfarfod wythnosol, ond yng Nghaerdydd yn hytrach na Rhif 10, Stryd Downing.
Ond dyma’r tro yn y stori. Mae lleoliad y cyfarfod yng Nghaerdydd yn ddirgelwch llwyr – er mwyn diogelu’r Prif Weinidog a’r ysgrifenyddion gwladol.
Ar dop yr agenda yfory fydd creu pecyn argyfwng o fesurau er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o ddiweithdra ymysg pobol ifanc.
Ym mis Ionawr dywedodd papur newydd yr Independent bod cynnal cyfarfod y cabinet tu allan i Lundain yn costio tua £200,000 bob tro.
Fe fyddai’r arian yna yn rhoi swyddi i o leia’ bump neu chwech o bobol ifanc dros gyfnod o flwyddyn, yn hawdd.
Mae cyfarfodydd y tu allan i Lundain eisoes wedi eu cynnal yn Birmingham a Leeds, fel rhan o ymdrech i ‘gysylltu gyda’r cyhoedd’ y tu allan i brifddinas Lloegr.
Mae yna lot o ffyrdd i gysylltu gyda’r cyhoedd, a dyw cloi eich hunain mewn lleoliad dirgel gyda’ch cydweithwyr o Lundain ddim yn un ohonyn nhw.
Beth yw eich barn chi felly? Stynt costus i greu cyhoeddusrwydd ynteu ymdrech lew i gysylltu gyda phobol tu allan i swigen San Steffan?