Er gwaetha’r argyfwng economaidd, mae amryw o gynhyrchwyr bwyd Cymru wedi lansio cynnyrch newydd yn y Sioe Fawr.
Un o’r rheiny yw cwmni hufen iâ Really Welsh sy’n parhau gyda’u harfer o roi enwau doniol Cymreig are eu gwahanol flasau.
Mae’r rhai newydd yn cynnwys ‘Calon Lân’, ‘Scrummy Strawberry’, ‘Manic Sweet Peaches’ a ‘Bryn Truffle’ gan ychwanegu at bedwar o’u blasau diweddara’, ‘Swirley Bassey’, ‘Why, Why, Why Vanilla’, ‘Triple Chocolate Crown’ a ‘Merlyn’.
Meddai Richard Arnold o gwmni Really Welsh “R’yn ni’n sicr yn credu mewn defnyddio cynnyrch llaeth 100% o Gymru, ond hefyd yn hoffi cadw cwsmeriaid ar flaen eu traed gan arbrofi’n barhaol gyda blasau newydd ‘egsotig’ – er hyn, ‘dyn ni wedi penderfynu gadael yr hufen ia cennin allan ohoni y tro ma!
“Ar hyn o bryd yn y Sioe, y ‘Bryn Truffle’ sydd yn gwerthu fel slecs!”.
Creadigrwydd yn parhau
Yn ôl Wynfford James, Pennaeth Is-adran Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a’r Farchnad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r cynnyrch newydd yn argoeli’n dda.
“Mae’n dda gweld nifer dda o gynhyrchwyr yn lansio cynnyrch newydd yn y Neuadd Fwyd, sy’n profi nad yw’r sefyllfa economaidd bresennol wedi diffodd creadigrwydd y sector bwyd yng Nghymru,” meddai.
Rhagor o’r cynnyrch newydd
Dyma rai o’r cynhyrchion newydd eraill sydd ar gael:
Hufen iâ – blasau newydd gan Cadwalladers (gan gynnwys ‘topins tail gwartheg’) a hufen iâ siocled oren Fferm Fêl Brynderi.
Cynhyrchion llaeth – Potiau iogwrt mawr 450g gan Llaeth y Llan o Lannefydd, a menyn newydd i ddathlu 20fed penblwydd cwmni Evan Rees.
Paté a saws – Mae gan The Patchwork Traditional Food Company rifyn cyfyngedig o baté brithyll tra bod y Welsh Mustard Company yn cynnig fydd saws marchruddygl (horseradish) Cymreig, a saws afal a mwstard mêl.
Caws – fe fydd Cadog Milk Link a Chwmni Cydweithredol Calon Wen yn arddangos dau gaws Cheddar newydd yr un, tra bod cwmni Kid Me Not yn lawnsio disgiau caws gafr newydd.
Siocled – pwdin Pot au Chocolat gan Hufenfa De Arfon, petit fours gan gwmni Pembertons a siocledi newydd o waith llaw gan The Chocolate House.
Cig – Mae Elan Valley Mutton wedi lawnsio eu pasteiod newydd cig dafad yn y Sioe, ac mae gan Celia’s Oriental Kitchen Flychau Chow newydd yn cynnwys cig eidion a chig oen o Gymru.
Diod – dau fath newydd o gwrw gan Breconshire Brewery. Un yw ‘Wild Beacon’ – cwrw haf golau iawn a fragwyd gydag ysgawen, danadl poethion a mêl lleol – a’r llall yw cwrw aur ‘Glasu’r Cymoedd’ fydd yn helpu hyrwyddo’r prosiect o’r un enw. Mae gan yr Otley Brewing Company hefyd gwrw newydd o’r enw ‘Colomb O’ a gwin ysgawen pefriog gan Celtic Country Wines.