Stefan Rousseau/PA
Roeddwn i braidd yn siomedig a dweud y gwir – er nad dyna’r gair addas, mae’n siŵr – pan lwyddais i ddefnyddio system mapiau newydd yr heddlu o’r diwedd. Doedd yna’r un drosedd wedi ei chofnodi yn ein pentref ni. Not a sausage, ys dywed y Sais. A finnau wedi bod yn cloi drws y ffrynt a’r sied yn ddiwyd bob nos gan feddwl bod ciwed o ladron a darpar-lofruddion yn barod i dorri mewn. Ond dyna y mae darllen y Daily Mail yn ei wneud i rywun, amwn i.
Roeddwn i’n disgwyl y byddai tref Caernarfon ychydig yn fwy prysur ac mi’r oedd hi – 167 o droseddau, gan gynnwys 87 trosedd ymddygiad gwrthgymdeithasol a 21 trosedd treisgar. Nifer ohonyn nhw ar faes y dref, sydd ddim yn syndod mawr. Chwe byrgleriaeth yn ddrwgdybus o agos at ei gilydd .
Rhaid i mi gyfaddef fy mod i wrth fy modd gyda mapiau ac ystadegau, ac mae map llawn ystadegau yn gyfuniad peryglus iawn. Fe ddylai Bwrdd yr Iaith greu map fel hyn yn dangos ble mae pob siaradwr Cymraeg yn byw – mae yna eisoes un gen i yn dangos ble mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod.
Cwestiwn arall ydi a fydd yna unrhyw ddefnydd ymarferol i’r mapiau yma. Os ydi person yn ddigon medrus i allu defnyddio’r wefan yna mae yn annhebygol o fod yn un o’r bobol hen, fregus, sydd fwyaf tebygol o gael eu targedu gan droseddwyr. Efallai mai’r prif ddefnydd fydd gadael i bobol weld nad oes cymaint o droseddau yn digwydd o’u cwmpas nhw ag y mae’r papurau tabloid yn ei awgrymu.