Mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin Jacob Rees-Mogg wedi addo gofyn i weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig helpu’r Rhondda yn dilyn llifogydd ddoe (dydd Mercher, Mehefin 17), sydd wedi effeithio bron i 200 o dai.
Dywed Jacob Rees-Mogg y bydd yn sicrhau bod Aelodau “ar draws” Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymwybodol o’r sefyllfa yn y Rhondda.
Daw hyn wedi i Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, Chris Bryant, annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu, gan gofio bod ei etholaeth wedi dioddef llifogydd ym mis Chwefror yn sgil Storm Dennis.
“Rydym yn gymuned gref yn y Rhondda ond dwi wir ddim yn meddwl y gallwn ymdopi rhagor heb help sylweddol o’r tu allan,” meddai.
“Ar ben hynny, mae hanner ein tip wedi disgyn i mewn i’r afon, felly mae’n rhaid i ni symud 60,000 tunnell a sicrhau fod ei fod yn saff oherwydd nid ydym eisiau Aberfan arall.
“Mae’r Cyngor yn brin o arian. Rydym yn gwybod bod angen £60 miliwn i drwsio’r cylfatiau, er mwyn sicrhau nad yw hyn y digwydd eto ymhen tri mis, chwe mis neu mewn blwyddyn.
“Rydym angen £2 filiwn i symud 60,000 tunnell o ddaear.
“Nid wyf eisiau dadlau, rwyf eisiau i Arweinydd y Tŷ sicrhau ein bod yn derbyn y gefnogaeth rydym ei angen yn y Rhondda.”
Atebodd Jacob Rees-Mogg drwy ddweud bod “yr holl Dŷ wedi clywed beth oedd gan Mr Bryant i’w ddweud yn ogystal â gweld ei fod dan deimlad, ac yn ymwybodol o’r effaith mae hyn wedi ei gael ar ei etholwyr.”
Dywed y byddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart yn siarad ag arweinydd y cyngor ynglyn â’r llifogydd, gan ychwanegu bod £2.6 biliwn o gyllid y Llywodraeth ar gael i ddelio â llifogydd.
“Ond rwyf yn ymwybodol nad yw siarad am symiau mawr o arian llywodraethol yn ddigonol pan mae pobol yn eistedd yn eu cartrefi yn poeni os yw tip yn mynd i ddisgyn.
“Fe wnâi drafod hyn gyda gweinidogion, gan sicrhau bod Aelodau ar draws y Llywodraeth yn ymwybodol o’r neges mae o wedi ddod i’r Tŷ hwn.”
Mae’r aelod lleol o’r Senedd, Leanne Wood, hefyd wedi galw am weithredu.