Roedd galwad frys yn gofyn am help gan ddynes a gafodd ei llofruddio yn fuan wedyn wedi cael ei hanfon at yr heddlu anghywir.

Ond, ar wahân i’r digwyddiad hwnnw a phroblemau cofnodi, fe benderfynodd y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu nad oedd swyddogion heddlu ar fai am farwolaeth Denise Rosser ym Medlinog ym mis Mai y llynedd.

Hynny, er fod Heddlu De Cymru wedi derbyn adroddiadau cyson am y peryg i Michelle ‘Denise’ Rosser yn ystod y tair blynedd cynt a nifer o alwadau yn ystod ei dyddiau ola’.

‘Dim tystiolaeth’

Yn ôl y Swyddfa, doedden nhw ddim wedi dod o hyd i dystiolaeth fod swyddogion heddlu wedi torri safonau proffesiynol wrth drafod y digwyddiadau.

Ond fe ddywedodd fod un derbynydd ar y ffôn wedi cyfeirio galwad at Heddlu Gwent yn hytrach na Heddllu De Cymru – mae Bedlinog yn agos at y ffin rhwng y ddau lu.

Cefndir yr achos

Fe gafodd y wraig 38 oed ei llofruddio gan ei phartner, Simon Winstone, yn eu catref yn Stryd Lewis yn y pentre’

Ym mis Rhagfyr, fe gafodd yntau ei ddedfrydu i o leia’ 18 mlynedd o garchar ar ôl i arbenigwyr ddisgrifio anafiadau Denise Rosser fel rhai tebyg i effaith damwain car.

Yn ôl swyddogion heddlu, roedd yr anafiadau ymhlith y gwaetha’ yr oedden nhw wedi eu gweld.