Mae awdurdodau Ffrainc yn gofidio am ragor o brotestiadau yn dilyn yr orymdaith ddiweddaraf drwy’r brifddinas, Paris.
Fe fu cannoedd o bobol yn gorymdeithio i lawr y Champs Elysees yn gwisgo topiau melyn, gyda nifer fawr o heddlu’n cadw llygad arnyn nhw.
Bu’n rhaid i siopau gau, gyda nifer ohonyn nhw’n gofidio am ddifrod posib.
Mae 170 o bobol eisoes wedi’u harestio fel rhan o’r brotest ddiweddaraf.
Mae Ffrainc wedi ymateb i’r protestiadau drwy anfon 89,000 o swyddogion diogelwch allan mewn gwahanol ardaloedd i geisio cadw trefn, gan gynnwys 8,000 yn y brifddinas.
Mae nifer o adeiladau enwoca’r brifddinas, gan gynnwys amgueddfa’r Louvre a Thŵr Eiffel ynghau am y tro.
Cefndir
Dechreuodd y protestiadau fel ffordd o ddangos dicter ynghylch prisiau a threthi tanwydd, ond fe ddaethon nhw’n ffordd o brotestio yn erbyn bywyd yn gyffredinol yn y wlad.
Mae pedwar o bobol wedi’u lladd mewn protestiadau ers Tachwedd 17.
Mae pryderon bellach y gallai protestiadau tebyg gael eu cynnal yng Ngwlad Belg a’r Iseldiroedd.