Mae llywodraeth Indonesia yn ystyried gwneud yr ardaloedd a ddinistrwyd gan y daeargrynfeydd a’r tswnami i fod yn fynwent fawr wrth i’r niferoedd o farwolaethau o’r drychineb yr wythnos ddiwethaf barhau i gynnyddu.

Wrth i dimau chwilio dynnu rhagor o gyrff o’r rwbel yn ninas Palu, dywedwyd fod nifer y marwolaethau nawr yn 1,649, gyda o leia’ 265 o bobl dal ar goll.

Mae rhagor o wledydd wedi anfon cymorth i’r wlad nawr tra roedd rhes o fagiau duon yn dal cyrff i’w gweld yn ardal Balaroa, yn barod i’w claddu.

Roedd perthnasau yn wylo wrth iddyn nhw roi darnau hirion o liain gwyn i gynrychioli defod claddu Moslemaidd y tu mewn i’r bagiau.