Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a ydi’r cyfan wedi dechrau mynd i ben Nick Clegg…
Ydi’r ymgyrch etholiadol ar ben yn barod? Nid mewn seddi agos fel Ceredigion – dim ond dechrau taflu baw y maen nhw yno.
Ond gydag ychydig dros wythnos i fynd tan ddiwrnod yr etholiad, ar lefel Brydeinig mae fel pe bai arweinwyr y pleidiau a’r cyfryngau eisoes wedi symud ymlaen at y cam nesaf.
Gyda senedd grog bron yn sicr mae’r drafodaeth ynglŷn â beth fydd yn digwydd wedyn wedi dechrau o flaen llaw.
Efallai mai bai’r cyfryngau diamynedd yw hynny ac mai dim ond ateb cwestiynau y mae arweinwyr y pleidiau. Mae hon yn ymgyrch etholiadol fyr, felly pwy a ŵyr pa mor ddiamynedd fyddai’r cyfryngau torfol 24 awr, pe bai hi’n ymgyrch hir!
Ond does dim rhaid i arweinwyr y pleidiau drafod posibilrwydd senedd grog mor agored, a bwydo’r tân, chwaith.
Chwarae teg, mae David Cameron a Gordon Brown wedi osgoi’r mater hyd yma. Ond bron bob dydd rydan ni’n cael awgrym gan Nick Clegg ei fod o’n pwyso i’r naill ffordd neu’r llall.
I ddechrau, roedd o’n awgrymu bod cadw hen lywodraeth y Blaid Lafur mewn grym yn wrthun iddo, gan awgrymu y byddai’n well ganddo glymbleidio gyda’r Ceidwadwyr.
Yna fe awgrymodd o y byddai’n fodlon clymbleidio gyda Llafur, ar yr amod nad yw Gordon Brown yn arweinydd. Heddiw mae o’n wfftio’r ddau ac yn dweud ei fod o eisiau bod yn Brif Weinidog. Mae o fel ceiliog y gwynt.
Mynd i’w ben?
Dw i ddim yn siŵr pam fod Clegg mor barod i drafod beth y byddai’n ei wneud ar ôl senedd grog.
Yn gyntaf, mae angen iddo wylio nad yw’r cyhoedd yn teimlo fod y cyfan wedi mynd i’w ben, a’i fod yn cymryd ei gefnogaeth newydd yn ganiataol.
Dydi o ddim yn debygol o fod yn Brif Weinidog, o leiaf – dan y sustem bleidleisio bresennol fe fydd yn drydydd o ran seddi y tu ôl i Llafur a’r Ceidwadwyr ar ôl yr etholiad, hyd yn oed os ydi o’n ennill mwy o bleidleisiau.
Ond dydi o ddim yn sicr chwaith y bydd ei blaid o eisiau clymbleidio gydag un o’r lleill, nac y bydd y pleidiau eraill eisiau clymbleidio gyda fo.
Dewis
Os bydd clymbleidio bydd rhaid iddo ddewis rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr a bydd un dewis neu’r llall yn amhoblogaidd mewn plaid gydag elfennau adain chwith ac adain dde – plaid nad oedd erioed wedi disgwyl bod mewn pŵer, ac sy’n diffinio ei hun yn bennaf fel ‘nid Llafur’ ac ‘nid Ceidwadwyr’.
Mae hyn hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â beth yn union fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn amdano mewn clymblaid, tu hwnt i gynrychiolaeth gyfrannol. Fydden nhw’n gallu cytuno ymysg ei gilydd ar y manylion eraill?
Ac mae’n bosib bod cynrychiolaeth gyfrannol yn gofyn gormod – ydi mae’r sustem bresennol yn annheg, ond mae’n gweithio er budd Llafur a’r Ceidwadwyr, felly pam fydden nhw’n barod i’w newid?
Yr unig ddewis arall i’r Democratiaid Rhyddfrydol, heblaw am benderfynu cefnogi Llafur neu’r Ceidwadwyr, ydi gwrthod ffurfio clymblaid o gwbwl. Ond mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dal i ddioddef o honiadau eu bod nhw’n llwfr ar ol iddyn nhw wrthod clymbleidio yn dilyn etholiad Cynulliad 2007.
Posibilrwydd arall
Yn ôl papur y Financial Times heddiw, mae arweinwyr y Torïaid yn ystyried trafod gyda Phlaid Cymru, yr SNP a phleidiau unolaethol Gogledd Iwerddon – os na fyddan nhw’n cael mwyafrif clir. Mantais clymblaid o’r fath ydi bod gan y pleidiau hynny restrau parod o ofynion i’w gwireddu.
Byddai’r Toriaid yn gallu ticio llond dwrn o focsys a sicrhau fod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i gynnal llywodraeth. Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn mwy ac yn bartner llawer mwy ansefydlog.
Mater arall, wrth gwrs, fyddai i Blaid Cymru gytuno i gefnogi Ceidwadwyr Llundain – o gofio’u henw a’u cynlluniau gwario cyhoeddus.
Dyna pam nad ydi’r Etholiad Cyffredinol cweit ar ben eto. Fe allai llwyddiant neu ddiffyg llwyddiant y pleidiau bach wneud gwahaniaeth mawr. Fe allai seddi tynn fel Ceredigion benderfynu ar siâp y llywodraeth nesaf – a ydi’r Ceidwadwyr yn gallu clymbleidio gyda phleidiau bach fel Plaid Cymru, ynteu a fydd rhaid ceisio dd i gytundeb gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.