Mae’r Unol Daleithiau, Prydain a Ffrainc wedi gweithredu ar y cyd wrth ymosod o’r awyr ar Syria.

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump fod yr ymosodiad yn ymateb i’r ymosodiad cemegol yn nhref Douma ddydd Sadwrn diwethaf, ac y byddai’r gwledydd yn defnyddio’u holl adnoddau i atal y fath ddigwyddiad eto.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May hefyd wedi amddiffyn yr ymosodiad, gan ddweud nad oedd “opsiwn amgen ymarferol i ddefnyddio grym”, gan wadu y byddai opsiynau diplomyddol wedi llwyddo.

Dywedodd: “Rhaid atal y patrwm ymddygiad cyson hwn – nid yn unig i amddiffyn pobol ddiniwed yn Syria rhag y marwolaethau ac anafiadau erchyll sy’n cael eu hachosi gan arfau cemegol ond hefyd oherwydd na allwn ni alluogi i’r norm cenedlaethol sy’n atal y defnydd o’r arfau hyn gael ei erydu.

“Nid mater o ymyrryd mewn rhyfel cartref mo hyn. Nid mater o newid cyfundrefn mo hyn.

“Mater o gyrch cyfyng wedi’i dargedu ydyw, sydd ddim yn cynyddu’r tensiynau yn y rhanbarth ac sy’n gwneud popeth posib i atal pobol ddiniwed rhag cael eu hanafu.”

Ychwanegodd y byddai’r cyrchoedd yn anfon “neges glir” i unrhyw wlad oedd yn bwriadu ymosod yn yr un modd, a bod y penderfyniad “er lles Prydain”.

Ffrainc

Dywedodd Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron mai Syria oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Douma, a bod hynny’n “peri perygl ar unwaith i bobol Syria a’n diogelwch ni i gyd gyda’n gilydd”.

Dywedodd fod Syria “wedi croesi’r llinell goch”.

Ymosodiad

Dywedodd llefarydd ar ran y Pentagon fod yr ymosodiad cyntaf o’r awyr ar ganolfan ymchwil wyddonol yn Namascus, lle mae arfau cemegol yn cael eu cynhyrchu.

Roedd yr ail ymosodiad ar ganolfan storio arfau i’r gorllewin o Homs, a’r trydydd ar storfa offer cemegol.

Dywedodd y llefarydd y byddai’r ymosodiadau’n “ergyd” i Syria, ac y byddai’n effeithio ar “flynyddoedd o ymchwil a datblygu, storio ac offer”.

Amddiffyn Theresa May

Mae rhai wedi beirniadu Prif Weinidog Prydain am ymosod ar Syria heb sêl bendith y Senedd.

Ond mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson wedi ei hamddiffyn.

Dywedodd wrth raglen Today ar Radio 4: “Mae’r cyflymdra yr ydyn ni’n ei ddefnyddio wrth weithredu yn hanfodol.

“Yn gywir iawn, mae hi wedi dangos arweiniad.”

Bydd rhaid i Theresa May egluro’i phenderfyniad yn San Steffan ddydd Llun.