Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi beirniadu ymosodiad cemegol “difeddwl” ar Syria sydd wedi lladd menywod a phlant.

Ond wnaeth e ddim cadarnhau honiadau gwrthwynebwyr yr Arlywydd Bashar Assad fod nwy wenwynig wedi cael ei defnyddio.

Mae’r llywodraeth yn gwadu’r honiadau am ddefnyddio nwy ar dref ger y brifddinas Damascus.

Ar wefan gymdeithasol Twitter, dywedodd yr Arlywydd Trump fod y brifddinas yn “hollol anhygyrch i’r byd tu allan”, a bod Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin ac Iran yn “gyfrifol am gefnogi’r anifail Assad”.

Mae wedi galw am roi cymorth dyngarol i bobol yn yr ardal, gan ddweud bod yna “argyfwng dyngarol arall heb reswm”.